Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU RELIGIOUS STUDIES, Vol. I, no. 1. Hydref 1965. tt. xvi a 123. Gwasg Caergrawnt. Pris 30/ Dyma'r rhifyn cyntaf o gylchgrawn newydd a fydd o ddiddordeb neilltuol i ddarllenwyr Éfrydiau Athronyddol, nid yn unig oherwydd ei gynnwys ond hefyd am mai ysgrifennydd yr Adran Athronyddol, sef Hywel D. Lewis, yw'r golygydd. Dymunwn ei longyfarch ar yr anrhydedd o'i ddewis i olygu cylchgrawn mor bwysig â hwn. Dymunwn iddo hefyd bob llwyddiant yn y gwaith. Yn ei nodiadau golygyddol, dywed yr Athro Lewis fod olion trai yn y bositi- fistiaeth a wrthodai gydnabod bod crefydd yn haeddu sylw'r meddyliwr. Bellach, y mae mwy o barodrwydd i geisio astudio crefydd (ac yn wir i'w hastudio'n wyddonol) i ddadansoddi datganiadau crefyddol yn rhesymegol a cheisio eu deall i chwilio i hanes y crefyddau ac i'w cymharu â'i gilydd ac i ystyried crefydd yng ngolau astudiaethau fel seicoleg, cymdeithaseg ac anthropoleg. Amcan y cylchgrawn newydd, a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn yn Hydref ac Ebrill, yw rhoddi mynegiant llawnach i'r diddordebau hyn. Ceir tri Chymro yn ysgrifennu iddo. Fe gawn bapur da gan H. H. Price, Belief In and Belief That', a draddodwyd yn gyntaf fel rhan o'i Ddarlithiau Gifford. Gwahanol iawn yw credu bod hyn-a-hyn a chredu yn hwn-a-hwn, neu gredu yn rhywbeth neu'i gilydd. Gwelir y gwahaniaeth hwn y tu allan i'r bywyd crefyddol; fe fydd dyn yn credu yn ei gyfaill a hefyd yn credu bod dau a dau'n gwneud pedwar. Ond y mae'r credu yn' yn holl bwysig i grefydd; ni ellir dadansoddi'r wybodaeth grefyddol yn llwyr yn nhermau credu bod hyn-a-hyn', a dengys Price paham y mae hyn yn wir. Wedyn, y mae J. Heywood Thomas (o Durham bellach) yn ysgrifennu'n ddiddorol iawn ar Religious Language as Symbolism, ac fe gawn adolygiad hefyd gan H. P. Owen o Lundain. Y mae diddordeb byw gan Gymry yn y maes hwn, ac nid yw'n rhyfedd gweled pedwar (gan gynnwys y golygydd) o'r naw sy'n ysgrifennu i'r rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn yn Gymry. Cefais yr erthyglau eraill hefyd yn ddarllenadwy a buddiol. A. C. Ewing yn dangos bod nerth o hyd yn yr ymresymiadau traddodiadol dros fodolaeth Duw; I. T. Ramsey yn rhoi mynegiant i'r Ffydd Gristionogol yn iaith ein dydd J. E. Smith, o Yale, yn delio â ffurf gyffredin crefydd lle bynnag y ceir crefydd Ninian Smart yn beirniadu damcaniaeth Zaehner ar gyfriniaeth C. J. F. Williams yn esbonio pennod o De Caelo Aristoteles ac yn olaf E. G. Parrinder yn edrych ar rai llyfrau diweddar ar grefydd ac athroniaeth India. Rhifyn diddorol iawn yr anhawster fydd cadw'r safon yma i fyny Gol. THE CONCEPT OF PRAYER, gan D. Z. Phillips. Routledge and Kegan Paul, 1965, viii ac 167. Amcan y llyfr hwn yw disgrifio'r rhwydwaith o syniadau sydd ynghlwm wrth y syniad canolog o weddïo ar dduw goruwchnaturiol, h.y., ar dduw sy'n bodoli o anghenraid. Trafodir tri math o weddi gweddi gyffes, gweddi ddiolch, a gweddi ymofyn, fel y'u ceir yn y traddodiad Iddewig a Christnogol. I Mr. Phillips, siarad â Duw yw gweddïo wrth siarad felly, gallwn naill ai gyffesu neu ddiolch neu ymofyn-a gadael y posibiliadau eraill o'r neilltu. Y broblem athronyddol yw esbonio'r hyn a wna crediniwr wrth weithredu felly yng ngwydd duw goruwchnaturiol. Wrth ei datrys defnyddia Mr. Phillips yn bennaf y syniad o'r gymuned grediniol, a'r profiad o weld gobaith neu ystyr mewn bywyd. Y mae bodolaeth y gymuned yn amod bodolaeth y