Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddaear yn cynnal popeth, fod yn rhaid bod Atlas i gynnal y ddaear. Wrth gwrs, y mae'r crediniwr yn siarad am realiti hollgynhwysfawr, ond ystyr gre- fyddol sydd i'r siarad. Ac yn yr un modd, syniad crefyddol yw'r syniad am ddirgelwch Duw, nid damcaniaeth epistemolegol. Fe'n hatgoffir gan Marcel nad siarad am drosgynnu profiad a wnawn wrth sôn am brofiad o'r tros- gynnol, ond amfath arbennig o brofiad. Ceir llyfryddiaeth werthfawr iawn ar ddiwedd pob pennod o'r llyfr. Y mae nifer y llyfrau a nodir yn dystiolaeth i ddarllen eang yr awdur yn y maes. Carwn pe bai dewisiad mwy amrywiol yn y cyfeiriadau at athroniaeth gyffredinol, a charwn fod wedi gweld cyfeiriad at waith Norman Kemp Smith yn delio â'r syniad o'r byd fel cynllun Duw. Pe bai rhywun am ragymadrodd i'r modd y mae sythweledwyr yn dadlau am grefydd, nid oes eisiau gwell na'r llyfr hwn. Dadleua H. D. Lewis o safbwynt athronyddol pendant. Gofyn difrifoldeb athronyddol am yr un math o ddadlau gan adolygydd, hyd yn oed mewn adolygiad sydd, o angenrheidrwydd, mor fyr. Abertawe D. Z. PHILLIPS. THE EFFECTS OF MASS COMMUNICATION, with Special Reference to Television by J. D. Halloran (Television Research Committee, Working Paper, no. 1). Leicester University Press, 1964, tt. 83, Pris 7/6. PROBLEMS OF TELEVISION RESEARCH, A Progress Report of the Tele- vision Research Committee. Leicester University Press, 1966, tt. 38. Pris 3/6. Dyma ddau lyfryn defnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb ganddo yn nylanwadau'r cyfryngau torfol. Ffrwyth Pwyllgor Ymchwil a ddewiswyd yn 1963 gan y Gweinidog Cartref ydynt, gyda'r I.T.A. yn fechnïydd iddynt. Yn y cyntaf, rhydd ysgrifennydd y pwyllgor (J. D. Halloran) hanes yr ymchwil a wnaethpwyd yn y maes. Ym Mhrydain Fawr ar hyn o bryd, yn Ffrainc, ac yn yr Unol Daleithiau, y mae grwpiau o gymdeithasegwyr yn astudio'r broblem yn wyddonol. Enwau adnabyddus bellach mewn cysylltiad â'r astudiaethau hyn yw Klapper, Lyle, Schramm yn yr Unol Daleithiau, a Hilde Himmelweit yn y wlad yma, a chawn grynhoad byr o'u gwaith hwy ac eraill gan Halloran. Cymysg iawn yw'r dystiolaeth hyd yn hyn, ond y mae llawer ohoni'n peri gofid i unrhyw un meddylgar. Adroddiad dros dro ar waith y Pwyllgor Ymchwil i Deledu yw'r ail lyfr. Ceir hanes yr anawsterau a gafodd y Pwyllgor wrth geisio darganfod pa ymchwil a wneid yn ein gwlad ni. Aethpwyd ati i egluro'r math o ymchwil sydd eisiau, ac fe gawn bennod ar y broblem hon. Yna disgrifir cymhlethdod yr ymchwil hwn. Rhaid iddo fod yn wyddonol, rhaid iddo godi o astudiaethau lawer, mewn cymdeithaseg a seicoleg yn bennaf, a rhaid iddo ddod o hyd i syniadau newydd a damcaniaethau newydd a fydd yn ddefnyddiol iddo. Nid yw'r gwaith yma, y mae'n amlwg, ond yn cychwyn. Ceir, hefyd, fel atodiad, argymhellion pwyll- gor o'r un fath sydd ar hyn o bryd yn bod yn Sweden, ac y mae'n ddiddorol sylwi pa mor agos yw casgliadau'r ddau bwyllgor. Y mae'n dda hefyd weld fod y ddau bwyllgor yn pwysleisio'r angen am gael help athronwyr, yn enwedig athronwyr mewn moeseg ac estheteg, yn yr ymchwil i'r maes pwysig hwn. Gol.