Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Brifysgol yn esbonio'r gweithiau hyn. Dyma ddylanwad mwyaf y Brif- ysgol ar feddwl Cymru yn yr ystyr gul i'r gair meddwl Fe fu'r meddyl- wyr hyn yn llafurio mewn gwahanol feysydd, moeseg, cymdeithaseg, athroniaeth gwleidyddiaeth, crefydd ac yn y blaen. Buont hefyd yn astudio natur gwybod a natur rhesymu cywir. Awgrymwyd yn barod mai pwyslais mwyaf gwerthfawr unrhyw brifysgol yn y cyswllt hyn yw'r pwyslais ar hunan-ddisgyblaeth y meddyliwr, a hwn yw maes rhesymeg. Oherwydd absenoldeb prifysgol hyd yn ddiweddar, ni chafodd rhesymeg y sylw dyladwy gennym nid ydym yn genedl resymegol iawn (o gymharu, dyweder, â'r Ffrancod). Ceir tystiolaeth o hyn o edrych dros rifau Efrydiau Athronyddol--cant a hanner, mwy neu lai, o erthyglau erbyn hyn-ac nid oes cymaint ag un ohonynt yn ymwneud yn gyfangwbl ac yn uniongyrchol â phroblem arbennig mewn rhesymeg. Wrth fynd heibio dylid pwysleisio'r angen am lawlyfr ar resymeg yn Gymraeg i'w ddef- nyddio yn y flwyddyn gyntaf o gwrs y myfyriwr. Yn sicr rhan werthfawr iawn o ddisgyblaeth y Brifysgol yw rhesymeg, ond nid wyf am awgrymu chwaith bod hwn yn fwy gwerthfawr na moeseg, estheteg, cymdeithaseg, athroniaeth crefydd, heb son am yr astudiaethau hynny a gyfrifir fel yn agosach at resymeg, sef, metaffiseg ac epistemeg. Y mae'r cyfan hyn yn angenrheidiol mewn cwrs prifysgol ac o'u dysgu'n iawn yn ddylanwad mawr ar feddwl unrhyw genedl. Aberystwyth. R. I. AARON.