Skip navigation

Efrydiau athronyddol

 - 

Cyf. 37 1974

Cyfraniad y Brifysgol i wleidyddiaeth

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Gadewch imi ddyfynnu
Ddydd Mawrth diweddaf (sef Hyd. 15, 1872), cynhaliwyd cyf-
arfod cyhoeddus i ddathlu y digwyddiad. Yr oedd y diwrnod yn
cael ei gadw fel dydd o ŵyl gyffredinol yn y dref-pob busnes,
o'r bron, wedi ei attal am y diwrnod. Yr oedd y pier wedi ei
addurno o'r naill ben i'r IlaIl â banerau gwychion, ac ym mhob cwr
o'r dref hefyd gwelid arwyddion anghamsyniol fod rhywbeth
mawr, pwysig, ac anghyffredin yn cymmeryd lle yn y dref y
diwrnod hwnw.
Rhan gyntaf y cymhelri oedd brecwast,-boreubryd cysurus am hanner
dydd a gynhelid yn ystafell giniawa fawr y coleg, wedi ei baratoi gan
Mr. Pell, o'r Belle Vue Hotel." Nid o ewyllys Hugh Owen na Phwyllgor
darbodus y Coleg y daeth hyn ond o haelioni ac ymdeimlad trefwyr
Aberystwyth eu hunain fod rhywbeth nid annhebyg i wyrth yn digwydd
yng nghragen hanner agored gwesty'r Castell-gwesty relweddol methedig
-y bore hwnnw.
'Roedd yn frecwast brwd. Siaradwyd yn faith a huawdl gan rai o
Gymry amlycaf eu hoes-a chan rai heb fod mor amlwg. Soniodd
Henry Richard am hen draddodiadau hynod y Cymry mewn diwylliant
ac addysg a chyfeirio at Gaerlleon a Bangor-is-y-Coed lle'r oedd, meddai
ef, gymaint â 2,400 o fyfyrwyr yn astudio crefydd a diwinyddiaeth mewn
cyfnod annhebygol. Aeth ymlaen i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a
dadlennu fel yr oedd y prifysgolion Albanaidd yn derbyn £ 16,000 y
flwyddyn gan y Llywodraeth at eu cynhaliaeth a phrifysgol Llundain yn
derbyn [9,577. Yn wir, yr oedd Glasgow newydd gael chwech ugain
mil o bunnau at godi adeiladau newydd, a'r cwestiwn mawr oedd pam
fod Cymru yn cael llai na neb arall ac yn cael ei gosod mewn safle mor
is-raddol. Dyfynnaf eto
A oedd Cymru yn llai teyrngarol na'r Iwerddon ? (" nac oedd ").
A oedd yn rhoddi mwy o drafferth i'r Llywodraeth ? (" nac
oedd "). Y ffaith ydoedd fod Cymru yn rhy dawel. Pe gallent
gynnyrchu chwyldroad bychan (chwerthin) neu gydfradwriacth
Ffenaidd, neu wrthryfel Oreinaidd, yna hwyrach y telid rhyw-
faint o sylw iddynt (" clywch '). Ond nid dyna eu ffordd hwy yng
Nghymru (" clywch clywch "). Nid felly yr oeddynt wedi dysgu
eu dyletswyddau fel dinaswyr
Saesneg, wrth gwrs, oedd iaith yr huodleddau brecwastol hyn. Aeth
Richard ymlaen i ddweud fel yr oedd ef newydd dreulio chwech wythnos
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.