Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn gweld y Queen's Colleges yn Iwerddon a dyma'r blaenffrwyth a welodd yno meddai Ffrwyth y colegau hyn oedd fod y dynion ieuaingc a ddygid i fyny ynddynt wrth y canoedd yn gweithio eu ffordd yn mlaen yn y byd yn cario y gwobrwyon yn y gwahanol arholiadau ac yn ennill lleoedd mwyaf anrhydeddus o dan y Llywodraeth yn y wlad hon, yn y Trefedigaethau, ac yn India. Yr oedd gwyntoedd gweddnewid nerthol ar gerdded. Gwta dair blynedd cyn 1872, roedd yn bwysig cofio meddai'r un siaradwr, fod bron y cyfan o swyddi'r gwasanaeth sifil wedi dod yn agored i competitive examination Nid dylanwad tei ysgol neu gildwrn oedd y tocyn bellach i lannau Caferi a thraeth Trafancôr ond dysg a gallu. Gwelwch meddai John Griffiths, y Gohebydd, a gofnodai hanes y brecwast, mae gan Sgotland bump o brifysgolion a 4,000 o fyfyrwyr a hynny sy'n cyfrif fod Sgotiaid i'w cael ymhob cornel o'r Ymerodraeth Fel yna (meddai) yr ydym yn ei gael ef, y Sgotyn, yn llenwi'r swyddi mwyaf cyfrifol a dylanwadol yn Lombard St., a Thread- needle St., tra y mae y Cymro druan sydd yn meddu cystal cynneddfau eneidiol ag yntau bob dydd o'r wythnos yn gorfod boddlonni ar swydd porter i lawr yn y selerydd yn wag ei logell a'i fola. Fel y gwelwch, yr ydym yn parhau o dan gyfaredd Ynys yr Hud a'r diawl o dan yr hatsus Yn sownd, co' bach, dan glo. Ar ôl yr anerchiadau, cynigwyd iechyd da y frenhines gan y Milwriad Pryse canwyd Duw Gadwo'r Frenhines o dan arweiniad Pencerdd Ceredigion yfed iechyd wedyn i Dywysog Cymru y dydd a thrachefn i weddill maith y teulu brenhinol a diweddu'r wledd trwy ganu Duw fendithio D'wysog Cymru Cystal inni gwplau'r darlun o'r dydd yn deidi. Fin nos, cynhaliwyd conversazione yn Neuadd Ddirwestol y Dref. Erbyn hynny, ebe'r adrodd- iad, 'roedd y tywydd wedi troi yn dra anffafriol ond daeth lliaws mawr ynghyd. Cyfle i ymlacio oedd hwn, wrth gwrs, a chyfle hefyd i gwrdd â'r Prifathro newydd, Thomas Charles Edwards a'i staff o ddau athro cadeiriol. Nid yw'r D.N.B. na'r Bywgraffiadur Cymreig yn sôn am y Parch. J. Hoskyns Abrahall, clasurwr, nac am H. N. Grimley, mathe-