Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gadw undod y sefydliad a'i enw yn ffaith wleidyddol mor anhepgor. I Eidalwyr cyffredin, rhan o Loegr ydyw Abertawe neu Gaerdydd-os yw'n digwydd eu bod yn gwybod amdanynt o gwbl. Ar y llaw arall, i ni sydd yn byw yng Nghymru ac yn Gymry, y mae 'na berspectif arall, sef perthnasedd y brifysgol i'n bywyd a'n gwaith ni fel aelodau o genedl. Ac ar y pen hwn mae llawer o feirniadaeth yn bosibl,- fel y gwelir ar dudalennau Barn a chyfnodolion eraill. 'Does dim eisiau craffter neilltuol i weld y gall y frwydr a enillwyd dros gadw'r undod gael ei cholli eto trwy ymroi i fawrdra. Yn ystod y deng mlynedd dwaetha' mae'r holl adeiladau newydd a'r miloedd lawer sy'n dod iddynt o bobman ond o Gymru, yn gwynebu a phellhau'r sefydliad oddi wrth Gymru ei hun. Mae'n creu argyfwng teyrngarol. Soniais am goleg Bangor pan oeddwn i yno yn fyfyriwr. Y pryd hwnnw yr oedd y lle'n ddigon Cymreig imi fedru teimlo ymrwymiad a chonsarn am y coleg fel y cyfryw. Ond pan edrychaf ar goleg Bangor heddiw a meddwl amdano, yr unig deyrn- garwch a erys ynof ydyw tuag at yr adrannau hynny ohono lle mae Cymry yn gweithio. Am y gweddill, — y mas llethol — mae'n ddifater gennyf. Chwedl W. B. Yeats, the centre cannot hold Gwleidyddiaeth yw hyn hefyd canys fe wn fy mod i'n datgan ymateb llawer un arall. Ar y dechrau, mi ddyfynnais ddisgrifiad o'r conversazione hwnnw a gafwyd ar noson gyntaf bodolaeth swyddogol y brifysgol cyfarfod Saesneg ar noson o dywydd mawr a baneri gwychion y dathlu yn diferu'n llipa yn y glaw. Pan welaf y dyddiau hyn, hanes darlithywyr ac athrawon o Saeson a rhai Cymry yn lluchio eu cylchau gwrth-Gymreig o gwmpas ym mywyd a chynghorau trefi a siroedd eu colegau, mi fydda' i'n meddwl am y conversazione yna gan mlynedd yn ôl; am yr hin dra anffafriol am y baneri yn y glaw ac yn teimlo, — os caf i gloi hyn o lith yng ngeir- iau'r darn a ddyfynnais ar y dechrau,-fe1 hen longwr W. J. Gruffydd wrth ffoi am byth o fwythderau Arcadia Lle'r ei di, Twm Pen Ceunant, Lle'r ei di ar draws y byd, A Sioned bron â hollti A'i hwyliau'n garpiau i gyd ? Yn ôl i'r Felinheli 'Rwy'n mynd, co bach, ho ho. Yn morio am y 'mywyd, Saith mis o Callaô. Rhyngoch chwi â chymhwyso'r darlun. Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. D. TECWYN LLOYD.