Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iaeth yng Nghymru i'r argyfwng presennol hwn. Ond peidied neb â'm cam-ddeall. Nid wyf o reidrwydd yn dilorni'r argyfwng. Yn wir, fe all ein gorfodi i edrych yn fwy beirniadol ar ein rhagdybiaethau, ac os cawn ddigon o ras, hyd yn oed i newid ein pwyslais. Nid wyf am fod mor ffôl â honni nad oes safbwyntiau am rhagfarnau gan ddysgadron y Brifysgol. Mae hyn mor wir am ddiwinyddion â phawb arall. Ond os oes bwrpas o gwbl i Brifysgol yn y maes hwn, fe ddylai o leiaf ein gwneud yn ddigon gonest i ail-feddwl yn barhaol wrth inni geisio ymateb i'r gwirionedd a ddatguddiwyd i ni. Ysywaeth, erbyn hyn, mae cryn ansicrwydd ynglyn â beth yn union yw Prifysgol — yn arbennig yng Nghymru. Nid dyma'r lIe i fanylu am hyn. Ond nid amherthnasol i'n pwrpas presennol ni yw nodi mai un o agweddau dwysaf yr ansicrwydd yw diflaniad y syniad traddodiadol am Uniυersitas,-sef y syniad o sefydliad yn cynnal unoliaeth yr holl ddisgyb- laethau mewn gwasanaeth i'r Gwirionedd. Cymerwyd ei Ie gan sefydliad yn cynnig lluosogrwydd o bynciau wedi eu cysylltu â'i gilydd nid mewn gwasanaeth i'r Gwirionedd in abstracto, yn gymaint ag er mwyn cyfleustra gweinyddol. Yn y sefydliad hwn, nid Gwirionedd fel y cyfryw a arddelir yn gymaint â gwirioneddau sy'n berthynol i'r pynciau gwahanol yn unig, ac nid i ddim byd y tu allan iddynt. Mewn geiriau eraill, mae'r disgyblaethau bellach yn cyd-fodoli yn hytrach na chyd-ddyheu. Ar un olwg, mae hyn yn codi problem ddyrys iawn i ddiwinyddiaeth Gristnogol draddodiadol fel pwnc sydd i gymryd ei Ie ymhlith pynciau eraill mewn Prifysgol. Mae diwinyddiaeth Gristnogol wedi'r cwbl yn rhwym o arddel Crist fel yr unig wirionedd. Eto i gyd, mae' r broblem hon, sydd o safbwynt athronyddol yn troi o gwmpas perthynas Crist- nogaeth a phlwraliaeth, yn ymddangos yn fwy dyrys nag y dylai fod oherwydd anallu rhai diwinyddion — yn perthyn i wahanol ysgolion o feddwl — i ahaniaethu'n ddigon clir rhwng athrawiaeth y creu ag athrawiaeth y cadw. Mae'r ddwy athrawiaeth fel ei gilydd yn seiliedig ar ffydd. Mae'r olaf wrth gwrs yn cynrychioli cyflawnder yr Efengyl a roddwyd i ni. Yn ei goleuni hi rhaid i'r diwinydd ddiffinio gwirionedd yn nhermau'r waredigaeth a ddaeth trwy Grist. Ond yn sgil hyn, mae'n demtasiwn aruthrol i'r diwinydd honni fod pob gwirionedd yn ddim byd ond agwedd o'r gwirionedd achubol. Ond yn amlwg ddigon nid oes statws felly gan bob gwirionedd. Yr hyn a anghofiwyd yw bod athraw- iaeth y creu yn cynnwys dysgeidiaeth am ras cyffredinol sy'n caniatau ei ddilysrwydd ei hun i'r cread ar wahân i'r achubiaeth yng Nghrist. Ffordd o gydnabod hyn yw synio am wirioneddau sy'n berthynol i ddisgyblaethau yn hytrach nag i syniad am unoliaeth metaffisegol sydd yn y pen draw yn gwadu dilysrwydd pob gwirionedd perthynol trwy ei lyncu Nid oes unrhyw anhawster cynhenid felly mewn caniatau i