Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD Analogy, gan Humphrey Palmer. The MacMillan Press Ltd., 1973, xvi + 186. Pris [3.50, SBN 333 10494 3. Y mae r Dr. Palmer yn ymdrin â dwy ddamcaniaeth sy'n defnyddio'r syniad o gydweddiad (analogy) i ddatrys problem ystyr gosodiadau am Dduw. Wedi ystyried y ddwy, y mae'n dod i'r prif gasgliadau canlynol os yw'n rhaid inni ddehongli trwy gydweddiad ystyr term a draethir am Dduw, yna nid ydym yn gwybod beth yw ei ystyr, er ein bod, os ydym yn gredinwyr, yn dal i haeru fod ganddo ystyr ymhellach, nid ydym yn gwybod pa dermau a draethir am Dduw sydd i'w dehongli trwy gydweddiad ac fel canlyniad i'r cwbl, ni allwn wrth ddiwinydda na dadlau'n rhesymegol na chyfundrefnu, Hynny yw, os yw iaith ddi- winyddol yn iaith gydweddus, nid yw diwinyddiaeth yn wyddor ddisgrifiadol a rhesymegol. Yna, wedi gwrthod tair dadl i'r perwyl y gall gosodiadau am Dduw fod yn ddisgrifiadol heb fod yn gydweddus, y mae Palmer yn cymryd ei fod wedi dangos nad yw diwinyddiaeth yn wyddor ddisgrifiadol. Os felly, sut y mae crefyddwyr i synied am ddiwinydda ? Y mae Palmer yn trafod chwech ateb. Ei safbwynt ei hun yw mai ymrwymiad diamod i egwyddor- ion ymarferol yw crefydd. O'i ddeall yn gywir, y mae diwynydda yn ymdrech i olrhain ac i gysoni oblygiadau'r addunedau hynny. Y mae Palmer yn trafod y ddamcaniaeth gyntaf sy'n cynnwys cydweddiad yn ei bennodau IV-VI, a'r ail yn VII-XIII. Gellir mynegi'r gyntaf fel dau osodiad (1) Os defnyddir yr un term traethiadol i wneud gosodiadau am y ’ byd cyffredin ac am Dduw, yna y mae ei ystyr yn yr ail gyd-destun yn wahanol i'w ystyr yn y cyntaf, ond yn perthyn iddo mewn ffordd a ddiffinir gan (2) Ystyr gosodiad o'r ffurf Y mae Duw yn F' yw Y mae gan Dduw ansawdd sy'n perthyn i'w natur efyn yr un modd ag y mae F-rwydd yn perthyn i natur dyn Y mae (2) fel petai'n mynegi amod sy'n ein galluogi i uniaethu'r ansawdd dwyfol a olygir gan F Nid yw'n anodd gan Palmer ddangos, fel y gwnaeth eraill o'i flaen, nad oes gan (2) mo'r gallu hwnnw. Ond fe ddylasai fod yn amhosibl iddo gredu, fel y mae'n ei gredu, mai rhywbeth fel (2) yw prif gynnwys Damcaniaeth Cydweddiad Acwinas (IV. 26). Yn y Summa contra Gentiles I, 32-5, a'r Summa Theologiae Ia, qu. 13, y mae Acwinas yn trafod traethiant cyd- weddus (analogical predication) Ceir gosodiad tebyg i (2) yn yr ail drafodaeth yn unig, i esbonio traethiant trosiadol (metaphorical) gw. art. 6. Yn ail, y mae (2), yn ôl Palmer, i'w ddefnyddio i gynhyrchu cyfieithiadau eglur o osodiadau am Dduw. I Acwinas, ar y llaw arall, y mae'r syniad o draethiant cydweddus yn cyfiawnhau'r enwau a roddwyd ar ansoddau y gwyddys eisoes, er yn aneglur ac yn anuniongyrchol, eu bod yn perthyn i Dduw. Nid esbonio pa ansawdd a olygir gan ddaioni Duw ond dangos mai daioni yw'r gair iawn i fynegi un o ansoddau Duw. Gan hynny, casgliad, nid rhagosodiad, yw'r gosodiad (1) uchod yng ngwaith Acwinas. Nid yw (2), yn ôl Palmer, yn ychwanegu dim at (1). Rhaid yw cytuno ag ef. Yn ei benodau VII-XIII y mae Palmer yn trafod a revised and extended theory of analogy (VII. 11). Cynnwys y ddamcaniaeth hon yw (I), ac yn ychwaneg (3) Y mae pob perffeithrwydd a geir yn y greadigaeth yn Nuw, ond mewn ffordd wahanol a phriodol. Effaith y ddamcaniaeth ddiwygiedig hon, medd Palmer, yw ein bod, oherwydd (3), yn disgrifìo Duw mewn iaith na wyddom mo'i hystyr yn y cyd-destun hwnnw, a'n bod ar yr un pryd, oherwydd (I), yn hyderus (yn ho11o1 ddi-sail, wrth gwrs) fod ganddo ystyr yn y cyd-destun hwnnw. Effaith colli rhywbeth fel (2) yw nad oes gennym ddim clem ar sut i egluro'r ystyr cudd hwnnw. Y mae Palmer fel petai'n meddwl mai'r un yw'r gwahaniaeth a geir gan Acwinas rhwng y modus significandi â'r res significata a'r gwahaniaeth rhwng ein dealltwriaeth aneglur ni o ystyr iaith ddiwinyddol a'i gwir ystyr, sy'n anhysbys i ni. Trwy ddiofalwch yn unig y gallai neb gredu hynny. Am drafodaeth deilwng o feddwl Acwinas ar y pwnc hwn, gw. erthygl J. F. Ross, Analogy as a Rule of Meaning for Religious Language yn A. Kenny (gol.), Aquinas, ac yn arbennig y tud. 117-131. Serch hynny, rhaid yw cytuno â Palmer (X. 1-7) mai annerbyniol yw'r ddadl sy'n gynsail i (3) uchod. Ond a yw (3) ei hun cyn waced ag y maentumia Palmer ? Iddo ef, y mae (3) yn goblygu, e.e., fod doethineb Duw yn wahanol iawn, rywsut, i ddoethineb dynion. Ond