Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn y fan hon y mae diffyg trylwyredd Palmer yn dod yn amlwg iawn eto. Fe ddywedodd Acwinas lawer o bethau i geisio esbonio sut y mae doethineb Duw yn wahanol i ddoethineb dynion e.e., gw. y ScG I, 32 a'r ST Ia, qu. 4, art. 2 qu. 12, art. 4 qu. 13, art. 5. Buasai'n well i Palmer drafod yr esboniadau hyn, yn hytrach na'u hanwybyddu, a chael hwyl am ben damcaniaeth anghyflawn. Yn ei benodau VIII-XI, y mae Palmer yn ceisio dangos fod yr unig ddadi dros (1) (gw. XI, 1) yn ei thanseilio ei hun trwy ddangos îoàpob gosodiad am Dduw yn defnyddio termau yn gydweddus ac o'r herwydd yn aneglur, y mae'n dangos fod ei rhagosodiad diwinyddol ei hun yn aneglur, ac o'r herwydd yn sail anaddas i ddadl. Yr unig ddihangfa yw derbyn y gall pob traethiad fod yn gydweddus mewn cyd-destunau diwinyddol. Os felly, ni wyr y diwinydd byth p'run o ystyron ei dermau, yr ystyr cyffredin neu'r ystyr cydweddus, sy'n briodol. Y mae agnosticiaeth, yn yr ystyr hwn, yn anochel. Ond ar adegau eraill (e.e., I, 1 IV, 1 XIII, 29) y mae Palmer yn siarad fel petai hi'n amlwg nad yw termau'n dwyn eu hystyr cyffredin mewn cyd-destunau diwinyddol — er ei fod ar adegau eraill eto yn siarad fel petai hynny'n amlwg i gredinwyr yn unig (XI, 1, 6). Beth yw effaith yr amlygrwydd hwn ar yr agnosticiaeth anochel ? Nid yw Palmer yn dweud. Beth am gasgliad pwysig Palmer na all diwinyddiaeth sy'n defnyddio iaith gydweddus fod yn wyddor, oherwydd fod ei holl ddadleuon yn void for uncertainty (XIII. 7) ? Gan fod y casgliad yn dibynnu ar y rhagosodiad nad ydym yn gwybod beth yn union yw ystyr term mewn cyd-destun diwinyddol (XIII. 3), y mae'r bylchau yn astudiaeth Palmer o waith Acwinas yn ei rwystro rhag mynd â'r maen i'r wal. Os yr un yw'r gwahaniaeth bob tro, ac os yw'r gwahaniaeth yn annibynnol ar elfennau eraill yn yr ystyr (a dyma'r pwynt allweddol), fe fyddai modd dweud o flaen llaw fod termau'r ddadl i'w deall yn gydweddus, a'i datblygu fel pe baent yn dermau cyffredin ym mhob ffordd arall. At hynny, y mae Palmer yn ei wrthddweud ei hun ar y pwynt hwn. Er ei fod ym mhennod XIII yn gwadu fod dadlau diwinyddol yn bosibl os yw iaith diwinyddiaeth i'w deall yn gydweddus, y mae ar yr un pryd yn credu ei bod hi'n amlwg i'w deall felly (XVII. 7), ei bod yn mynegi' addunedau diamod ac yn ogystal fod modd olrhain goblygiadau ac anghysonderau'r addunedau hynny (XIX. 7 10-11 21). Yn ei bennod XIX y mae Palmer yn cynnig ei syniadau ei hun am ystyr iaith am Dduw. Crefydd dyn yw cyfanswm ei addunedau diamod (XIX 6, cymh. 16). Eu mynegi yw diben cyntaf, priodol, iaith am Dduw (XIX. 16). (Fe gamddefnyddir yr un iaith i ddis- grifio byd a bodau eraill, er mwyn ceisio cyfiawnhau'r addunedau (XIX. 16-17)). Y mae'r iaith hon yn gydweddus, ond nid yw hynny'n mennu dim ar Palmer mwyach y mae'n iaith non-descriptive Nid yw'n ceisio esbonio sut y gall newid ystyron termau disgrifiadol (sut ?) mewn brawddegau mynegol (indicatiie) gynhyrchu iaith nad yw, o'i hiawn ddeall, hyd yn oed yn adrodd chwedl. Yr oedd hi'n bryd i athronydd cyfamserol ei feddwl ysgrifennu yn helaeth ar gydweddiad mewn iaith grefyddol. Nid hwn yw'r llyfr y dylasid ei ysgrifennu. Nid yw ei ysgolheictod yn ofalus nac yn drwyadl. Y mae'n rhy barod i gredu fod y safbwyntiau gwrthwynebus yn ffôl neu'n anonest neu'r ddau. Y mae'r cynnwys cadarnhaol yn anghyson ac yn aneglur. Ceir llawer gwell cyflwyniad i'r pwnc yn erthyglau J. F. Ross op. cit., ac hefyd yn y Journal ofPhilosophy, 1970, tud. 725-746. Y mae cwmni MacMillan, trwy ddefnyddio print bras, tudalennau gweigion a phapur trwchus, wedi chwyddo'r gyfrol hon ymhell tu hwnt i haeddiant ei 186 thudalen. Diau y gwnaeth hynny hi'n haws iddynt ofyn [3.50 amdani. Coleg y Brifysgol, Bangor. J. I. DANIEL.