Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL Y llynedd cyhoeddwyd yn yr Efrydiau drafodaethau y Gynhadledd Athronyddol ar athroniaeth Hywel D. Lewis. Eleni pleser mawr yw cael cyflwyno trafodaethau'r Gynhadledd ar waith yr athronydd ifanc a disglair o Gymro, sef yr Athro Dewi Z. Phillips. Er bod yr Athro Phillips yn anghytuno'n frwd a phybyr â safbwynt athronyddol yr Athro Lewis, eto i gyd mae'r ddau yn ymdebygu i'w gilydd mewn sawl ffordd. I ddechreu, ymddiddorant yn yr un meysydd athronyddol, sef athroniaeth crefydd yn bennaf, athroniaeth moesau ac athroniaeth gwleidyddiaeth, a pherthynas y rhain â llenyddiaeth, celfyddyd a chymdeithas yn gyffredinol. Yn ail, gellir yn deg olrhain cryfder athronyddol y ddau i'r ffaith iddynt wreiddio eu syniadau athronyddol ar gorff sylweddol cydnabyddedig o athroniaeth: cryfder athroniaeth yr Idealwyr yw sail gadarn athroniaeth Lewis, ac athro- niaeth yr athrylith athronyddol, Wittgenstein, — athroniaeth ag iddi gysylltiadau agos ag Idealiaeth — sy'n gefndir i waith Phillips. Yna mae'r ddau wedi cyhoeddi nifer helaeth o lyfrau ac erthyglau athronyddol, a'r ddau'n olygyddion cyfnodolion athronyddol pwysig. O ganlyniad y maent yn enwog am eu gwaith nid yn unig yng Nghymru a Phrydain, ond mewn sawl gwlad arall. I'r sawl ohonom sy'n mynychu cynadle- ddau ar athroniaeth crefydd ar y Cyfandir fe wyddom bod cryn drafod ar syniadau athronyddol y ddau yn yr Almaen, yr Isel-diroedd ac yn Sweden. Ac maent wedi cael y fraint o'u gwahodd i ddarlithio yn yr Unol Daleithiau, ac hefyd mewn prifysgolion mewn mannau eraill o'r byd. Prin felly y gwelwyd erioed o'r blaen ddau athronydd o Gymru sydd mor adnabyddus y tu allan i Gymru ag yr ydynt y tu fewn iddi. Mae hyn yn rhywbeth i athronwyr Cymru, a Chymru gyfan, ymfalchío ynddo. Yn ddiau mae dawn lenyddol yr Athro Lewis yn y Gymraeg yn gryfach na'r eiddo yr Athro Phillips, ond ni all neb amau sêl a brwdfrydedd yr Athro Phillips tuag at ddiwylliant Cymru, na'i ymroddiad a'i weithgarwch o blaid sefydliadau Cymraeg, yn enwedig y Brifysgol a'r Steddfod Genedlaethol. Ac mae ei ffraethineb, ei hiwmor iach, ei storiau digrif dirif, ei hoffter o drafod syniadau o unrhyw fath mewn unrhyw fan, ac yn arbennig ei ddawn arbennig a dihafal i ddewis enghreifftiau hynod o addas sy'n goleuo yn rhyfeddol y pwnc dan sylw yn awgrymu bod, y tu cefn i'r ddawn athronyddol gelfydd, bersonoliaeth eithriadol o fywiog, egnïol a hoffus.