Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFYDD ATHRONYDD-EGLURDEB NEU ATEBION? Yn gyntaf, carwn ddiolch i Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion am osod fy ngwaith fel thema'r gynhadledd eleni, y flwyddyn gyntaf wedi'r hanner cant yn hanes yr Adran. Carwn ddiolch o flaen llaw i bob un o'r cyfranwyr. Gwn y bydd cytundeb ac anghytundeb yn y trafodaethau, ond mae gen i Ie i fod yn ddiolchgar am y sylw a'r amser a roddwyd i'm gwaith. Am fod papurau i'w rhoddi ar athroniaeth addysg, moeseg, athroniaeth crefydd, a'r berthynas rhwng athroniaeth a llenyddiaeth, penderfynais ganolbwyntio'r ddarlith agoriadol ar ryw- beth sydd yn gyffredin i bob un o'r cyd-destunau, sef, natur ymchwil athronyddol, natur yr alwad i athronyddu. Wrth sôn am ffydd athronydd, nid sôn ydwyf am yr hyn a allai fod yn wrthrych ffydd i athronydd. Yn hytrach, 'rwyf am sôn am athroniaeth ei hun fel gwrthrych ffydd. Ffydd yr athronydd yw ffydd mewn athro- niaeth, ac wrth holi am natur y fath ffydd, holi ydym ynghylch yr alwad i athronyddu. Os yw athroniaeth yn ffordd o fyw, yn rhyw fath o weledigaeth o'r byd, y cwestiwn yw: pa ffordd o fyw, pa fath o weledigaeth? Rhaid sylwi ar y cychwyn fod athronwyr yn anghytuno ynghylch yr ateb y dylid ei roi i'r cwestiwn hwn. Y mae'r rheswm am hyn yn amlwg: y mae'r cwestiwn am natur athroniaeth ei hun yn gwestiwn athrony- ddol. Ni allwn ateb y cwestiwn yn y modd y gellir ateb cwestiwn ynghylch natur rhyw gêm, dyweder. Gellir dweud wrth rywun beth yw rheolau pêl-droed heb chwarae'r gêm. Ond wrth geisio egluro natur athroniaeth, daw ystyriaethau athronyddol i mewn i'r eglurhad. Ar y cychwyn, 'rwyf am dynnu sylw at ddau draddodiad gwahanol iawn mewn athroniaeth — y traddodiad sydd yn gweld athroniaeth fel yr ymgais am atebion, a'r traddodiad sydd yn gweld athroniaeth fel yr ymgais am eglurdeb. 'Rwy'n defnyddio'r gair 'traddodiad' mewn ystyr eang iawn, oherwydd y tu fewn i'r hyn a alwaf yn draddodiadau, mae amrywiaethau ac anghytundebau. Ond, serch hynny, 'rwyf am awgry- mu fod y traddodiad cyntaf, yr ymgais am atebion, yn ffrwyth dryswch syniadol. Wrth ddangos natur y dryswch, gobeithiaf ddangos, ar yr un pryd, paham y mae eglurdeb yn ddigon, paham y mae'n rhaid i athroniaeth fod heb atebion. Mewn un traddodiad hir mewn athroniaeth, gwelir y cais am atebion mewn athroniaeth yn yr ymgais i roi seiliau cadarn i wybodaeth dyn. Yn ôl y fath draddodiad, mae gwahaniaeth rhwng yr athronydd a'r dyn