Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MOESEG A FFINIAU RHESWM Arwyddocaol a phwysig yw'r fTaith na ellir gwahanu dechreuad athroniaeth oddi wrth yr ymdrech i ymholi ac i ddeall y gwahaniaeth rhwng y drwg a'r da, rhwng yr hyn sydd o werth ym mywyd dyn, a'r hyn sydd ddiwerth a dinistriol. Yn hir hanes athroniaeth, ceir llawer ymateb i'r ymdrech yma, ac yn y papur hwn rwyf am gyfeirio sylw at ymateb bywiog cyfoes, sefyr un a gawn yng ngwaith yr Athro Dewi Phillips. Nid beirniadaeth sydd gennyf yma, ond teyrnged yn hytrach i'r ysbryd- oliaeth athronyddol sydd wrth wraidd tyfiant a datblygiad ei drafo- daeth. Hen elyn athroniaeth yw soffistiaeth. Nid yn rhyfedd chwaith, oherwydd, fel y'n rhybuddiwyd ni gan Descartes, nid oes terfyn ar y ffyrdd y gallwn ddefhyddio geiriau. Sut y gwyddom fod i eiriau fel 'gwirionedd', 'daioni', a 'chyfiawnder' unrhyw realiti y tu hwnt iddynt i roi iddynt arwyddocâd? Onid gwell cyfaddef gyda Gorgias mai ansicr yw pob gwybodaeth: hyd yn oed os oes yna unrhyw realiti, ni allwn ei fynegi, felly ofer ydyw inni hawlio fod yna realiti sy'n hysbys inni trwy brofiad. Nid oes eisiau i mi ymhelaethu ar yr anawsterau sydd ynghlwm wrth osodiad Gorgias, ond eto mae yna elfennau treiddgar yn yr anflyddiaeth yma sydd yn ami yn treiddio i foeseg ac i athroniaeth crefydd. Yn neialogau Platon mae yna ymosodiad brathog ar y soffydd. I Blaton mae soffistiaeth yn peryglu bodolaeth athroniaeth, oherwydd mae'n gwadu i athroniaeth unrhyw lwyddiant yn yr ymgais am wybodaeth a dealltwriaeth wirioneddol. Yn wir mae Platon yn cyffelybu'r person sy'n casáu'r gair i'r person sy'n casáu dynolryw. Mae colli ffydd yn y gair ac yn yr awgrym yn debyg i golli ffydd yn naioni'r person. Os nad yw awgrymu a thrafod yn ddim amgen na rhethreg ac eristig (sef dadlau er mwyn ennill), yna nid oes gobaith am wir ddealltwriaeth; os nad yw daioni a'r gofal am unigolion eraill yn ddim amgen na chydymffurfio â chonfensiwn, yna amhosibl yw sôn am unrhyw ddatblygiad moesol, neu am wellwell dirnadaeth o'r gwahan- iaeth rhwng y drwg a'r da. Mae Platon am wrthwynebu dull y Soffydd o ddefnyddio amheuaeth fel dull o hyfforddi, ac fel sail a chefn i afreswm ac unigolyddiaeth. Ond sut mae'r amheuaeth yma i'w llorio? Beth yn union yw'r berthynas rhwng athroniaeth a moesoldeb, rhwng y rheswm a'n dealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng y drwg a'r da? Ai swyddogaeth