Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ASTUDIAETH DEWI Z. PHILLIPS O WAITH Y DRAMODYDD GWENLYN PARRY Mae gan yr Athro Dewi Z. Phillips ar ddechrau ei gyfrol Through A Darkening Glass rai sylwadau sylfaenol ynghylch ei ddiddordeb yntau fel athronydd mewn llenyddiaeth ac ynghylch y pwysigrwydd i athronydd ddelio â llenyddiaeth. Gall yr athronydd, medd ef, ddefnyddio lleny- ddiaeth fel ffynhonnell o awgrymiadau am ddadleuon ynghylch gafael tynn neu llac amrywiol agweddau ar fywyd dyn, er mwyn dangos y modd y gall dulliau o feddwl dyfu'n aneglur i bobl. Mae'n anelu yr ystyriaeth yma'n bennaf at yr athronydd ei hun, ond yn ei gyfrol mae'n lledu ei ystyriaethau i gynnwys agweddau meddwl beirniaid llenyddol a hefyd yr artist creadigol, hynny yw, pawb sy'n ymhel ag ystyron dyfnaf bywyd y sawl sy'n dehongli, a'r sawl sy'n portreadu. Yn y gyfrol honno fel y gwelaf i hi, y mae Phillips yn dadansoddi agweddau rhagfarnllyd a chymylog ar feddylwaith beirniaid llenyddol a rhai gwyr creadigol, ymhlith pethau eraill. Un o'r ysgrifau a'm diddorodd fwyafyw honno ar dair ffilm gan Ingmar Bergman. Mae'n datgelu gweledigaeth gynyddol Bergman a'i bortread o beth mae Duw yn ei olygu i grwp o gymeriadau y mae ef wedi eu creu yn y ffilmiau hyn:- in the three films we see a movement from a kind of belief in God to a private world of protected sensations-a modern cosmology of the spirit. Yn yr ysgrif hon gallwn weld, ar un ystyr, ragflaenydd i'r modd y mae'r athronydd hwn yn ymledu ei astudiaethau i gynnwys dramâu Gwenlyn Parry. O'r 'kind of belief in God' a gawn yn Saer Doliau hyd at y 'private world of protected sensations' a welwn i raddau yn Sal. Ar wahan i'w astudiaeth braff o 'reductionism' Bergman yn yr ysgrifhonno, yr oedd hi i mi yn bwt o ragflaenydd i hogi'r meddwl ar gyfer clamp o astudiaeth o'r un math o thema yng ngwaith Gwenlyn Parry. Fe ofynnwyd i mi, ar gyfer y ddarlith hon, fwrw golwg dros astudiaeth Phillips o ddramâu y Cymro hwn. Mae astudiaeth athronyddol o waith dramodydd yn rhywbeth newydd yn y Gymraeg. Nid yw'n newydd o bell ffordd yn hanes theatr a drama, er mai'r ddwy brif fTrwd o astudiaethau beirniadol yn y cyswllt hwnnw yn ystod yr ugeinfed ganrif o leiaf yw gwaith haneswyr a beirniaid llenyddol academaidd ar y naill law, a chritigyddion perfTormio theatrig ar y llaw arall. Yn fwy na heb, mae ganddynt eu dulliau a'u diddordebau arbennig eu hunain, a