Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRANIAD YR ATHRO D. Z. PHILLIPS I ATHRONIAETH ADDYSG Nid yw'r Athro D. Z. Phillips wedi ysgrifennu'n gynhwysfawr ar Athroniaeth Addysg fel yr Athro R. S. Peters, Paul Hirst ac amryw eraill ond y mae ei gyfraniad ar ambell bwynt wedi bod yn hynod dreiddgar a sylfaenol. Fel y ceisiaf ddangos, y mae ei gyfraniad i gyfeiriad y syniad o addysg ryddfrydol, gyda'r holl oblygiadau moesol a'r dehongliad o wybodaeth sydd yn deillio o'r agwedd honno. Y mae'r datblygiad pwysig diweddar, h.y. yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, a gysylltir yn arbennig ag enw yr Athro R. S. Peters, wedi canolbwyntio ar ddwy brif thema, sef yn gyntaf natur gwybodaeth, sydd yn gysylltiedig â'r honiad sylfaenol mai prif bwrpas addysg yw datblygiad y meddwl a'r ymwybyddiaeth. Yn ail moesoldeb sydd yn gysylltiedig â'r syniad o ddyn fel person a ddylai fod ganddo'r rhyddid a'r wybodaeth i ddewis drosto'i hun a bod addysg o'i hanfod yn broses gyda'r nod hwn mewn golwg. I grynhoi, mae'r thema gyntaf yn archwilio natur yr hyn a ddysgir a'r ail y dulliau a ddefnyddir. Y mae'r thema gyntaf, sef natur gwybodaeth yn thema draddodiadol mewn athroniaeth. Ym myd addysg y cwestiwn yw beth yw gwerth gwybodaeth a sut y mae dewis yr hyn sydd yn angenrheidiol i wahanol ystadau o ddatblygiad a gallu. Gweithgaredd ymarferol yw addysgu ac y mae trafodaeth o gwestiynau fel hyn yn arwain at y posibilrwydd — nid yr angenrheidrwydd — o fabwysiadu agweddau a dulliau gwahanol tuag at y broblem. Medr trafodaeth athronyddol daflu golau ar wahanol agweddau problem, drwy archwiliad beirniadol, ond nid yw'n dilyn fod yn rhaid i neb weithredu mewn dull arbennig o ganlyniad ac yn sicr nid yw'n dilyn fod athroniaeth yn cynnig atebion pendant. Ond y mae pobl sydd a diddordeb mewn trafod problem o'r fath a diddordeb hefyd mewn cael arweiniad ac eglurder-er mai eu dewis hwy yw hynny-oherwydd y maent yn wynebu cwestiwn ymarferol fel, 'Beth a ddysgwn i'n plant a fydd o werth iddynt?'. Mae'r cwestiwn felly yn debyg i 'A yw'n well bod yn fochyn bodlon nag yn Socrates anfodlon?' neu 'Ym mha ffordd y mae barddoniaeth yn rhagori ar Bingo?' Yn ei bennod allweddol ar y broblem hon, sef pennod V 'Worthwhile Activities' yn ei lyfr Ethics and Education, y mae R. S. Peters yn ymwrthod â'r syniad o wybodaeth fel rhywbeth ymarferol yn yr ystyr gul benodedig gan fod hyn yn arwain at ystyried y disgybl fel gwrthrych i'w hyfforddi yn hytrach na pherson i eangu ei ymwybyddiaeth. Dylid yn ei farn ef