Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYLWADAU AR ATHRONIAETH CREFYDD YR ATHRO D. Z. PHILLIPS Ar athroniaeth ddiweddar Wittgenstein, yn anad dim arall, y seiliodd vr Athro Phillips ei athroniaeth crefydd. Mewn brawddeg, camp a chyfraniad arbennig Phillips i athroniaeth crefydd yw ei ymgais i roi cyfrif o natur resymegol y gred yn Nuw yn nhermau ymhlygiadau athroniaeth Wittgenstein yn ei Ymchwiliad Athronyddol. Yng ngoleuni dylanwad eang Wittgenstein ar y byd athronyddol cyfoes gellir gwerthfawrogi pa mor bwysig yw'r cyfraniad hwn. Ac o gofio cymhlethdod athroniaeth Wittgenstein, nid tasg hawdd oedd yn wynebu Phillips ychwaith. Cynhyrchodd Wittgenstein ddwy athroniaeth sydd i raddau helaeth yn groes i'w gilydd. Yn y gyntaf ohonynt casglodd na ellir yn ystyrlon ddweud dim am ystyriaethau moesol, esthetic a chrefyddol. Perthyna'r rhain i'r byd 'uwch' o werthoedd na ellir llefaru amdano. Yn ei ail athroniaeth casglodd Wittgenstein fod iaith crefydd mor ystyrlon ag unrhyw iaith arall. Ond eto, daliodd i gredu nad materion i ddamcaniaethu ynglyn â hwynt yw cwestiynau am foesoldeb, ystyr bywyd, a chrefydd. Mentraf awgrymu mai mewn perthynas â natur resymegol y 'trosgynnol' y canfyddir y newid lleiaf yn agwedd meddwl Wittgenstein rhwng y naill athroniaeth a'r lla.ll. A cheir mesur o gadarnhad o hyn yn y ffaith nad yw Phillips yn gweld unrhyw anhawster mewn dyfynnu o'r Tractatus os yw athroniaeth y llyfr hwnnw yn cadarnhau rhyw bwynt neu'i gilydd o'i eiddo. Yn wir, yr hyn a fwriadaf ei ddangos yn y papur hwn yw fod athroniaeth crefydd Phillips yn gymhlethiad o athroniaethau cynnar a diweddar Wittgenstein, ac er y gallai hyn fod yn adlewyrchiad cywir a theg o'r hyn fyddai Wittgenstein ei hun wedi ei ddadlau am grefydd, ymddengys i mi fod presenoldeb teithwedd o'r Tractatus yn athroniaeth Phillips yn milwrio yn erbyn rhoi cyfrif rhesymegol cywir o grefydd. Chwilio am fan cychwyn, am yr hyn a roddir, fu un o brif orchwylion yr athronydd drwy'r canrifoedd. Ac yn ôl yr Ymchwiliadau 'yr hyn y mae yn rhaid ei dderbyn, yr hyn a roddir yw dulliau o fyw'1 — hynny yw, yr amrywiaeth gweithgareddau dynol sy'n bod yn naturiol mewn cym- deithasau a diwylliannau dynol. 'Daw esboniadau i ben yn rhywle',2 rhaid i ni gyrraedd rhyw bwynt yn ein hymchwil am ddeall ac eglurder he nad yw'n ystyrlon i ofyn rhagor o gwestiynau. Ac os mynnwn ofyn mwy, yna naill ai ni ddeallasom yr hyn a roddwyd, neu, fel y bu yn ymchwiliadau Athronyddol, II xi. ibid. I § 1