Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Through a Darkening Glass: Philosophy, Literature and Cultural Change, D. Z. Phillips, Basil Blackwell, Rhydychen, 1982, Pris £ 10. Casgliad o ysgrifau yw'r llyfr hwn yn delio â gweithiau llenyddol megis nofelau Edith Wharton, Thomas Hardy, Dostoyevsky a Tholstoy, Dramau ar Faust gan Marlowe a Goethe, a gwaith Beckett, Bardd- oniaeth R. S. Thomas a sgriptiau ffilm gan Ingmar Bergman. Ceir hefyd ysgrif ar ymdriniaeth Freud o'r cymhleth Oedipus sydd dipyn yn wahanol o ran ei gynnwys i'r lleill. Rhwymyn cysylltiol yr ysgrifau amrywiol hyn yw honiad yr awdur bod gweithiau llenyddol yn gywirach yn eu dadansoddiad o natur moesoldeb na'r hyn a geir mewn Athroniaeth, neu o leiaf mewn mathau arbennig o athronyddu. Yn arbennig y darlun a roddant o ffenomenon fel yr argyfwng ym mywyd person pan fo'n newid ei werthoedd neu'n gorfod dewis mewn sefyllfa lle y bo gwrthdrawiad gwerthoedd. A dyna ystyr deublyg y teitl, y mae'r drych yn tywyllu pan fo newid mewn gwerthoedd neu yn tywyllu pan fo damcaniaethau athronyddol yn camarwain ac yn camddehongli natur penderfyniad moesol. Fe wneir y penderfyniad moesol mewn sefyllfa arbennig a phan ddadansoddir yr amgylchiad yn ei holl agweddau ceir terfynau ar yr hyn y gellir neu a ddylid ei wneud, terfynau ffeithiol, neu rai a gyfyd o gymhlethdod perthynasau personol, neu oblegid y posibilrwydd bod dewis un llwybr yn golygu gwrthod llwybrau eraill. Y mae moesoldeb ei hun yn gosod terfyn ac yn cyfyngu ar y posibiliadau. Hyn a esbonia Ie gofid ac edifeirwch mewn bywyd. Wrth syllu ar y penderfyniadau a wnaed yn ein gorffennol a gweld y canlyniadau difrifol a darddodd ohonynt, rhai nas rhagwelwyd ac na ellid eu rhagweld, sylweddolir bod y penderfyniadau hyn yn esgor ar ganlyniadau trychinebus. I'r Athro Phillips, y mae llenyddiaeth yn cynnig darlun o'r bywyd moesol sy'n gywirach ac yn fanylach na'r hyn a geir mewn Athroniaeth. Oblegid yma y darlunir 'y dwyfol drasiedi' sydd yn rhan annatodadwy o fywyd dyn. Nes na'r hanesydd at y Gwir digoll Ydyw'r dramodydd, sydd yn gelwydd oll. meddai Williams Parry. Y mae'r Athro Phillips yn cynnig dileu 'hanesydd' a gosod 'athronydd' yn ei Ie. Oblegid yr athronydd yw'r 'dyn rhesymol' sydd am gynnig cyfiawnhad am ei weithred trwy gynnig rhesymau amdanynt. 'Thus ethics and rationality are made to coincide: the moral thing to do is also the reasonable thing to do' (tud. 36). Fe