Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jesus in the Faith of Christians, Hywe1 D. Lewis, MacMillan 1981, tt. 114, Pris £ 15.00 Go brin bod neb yn fwy adnabyddus i ddarllenwyr yr Efrydiau na'r awdur amryddawn hwn. Ond testun rhyfeddod hyd yn oed i'w gydnabod yw ei ddawn gynhyrchiol ac amlochredd ei ddiddordebau. Yn y gyfrol fechan hon canfyddir yn fuan ei fod yn gartrefol wrth gerdded i amrywiol feysydd a dal pen rheswm â'r diwinydd, yr ysgolhaig beiblaidd, y nofelydd, hanesydd crefydd, heb sôn am wahanol garfannau o athronwyr. Ni allai neb wneud hyn heb iddo dreulio oes gyfan i ymgodymu â'i bwnc a dal ei llydd gyferbyn â'r goleuni a darddasai o'i fyfyrdodau a'i brofiad. Ymdoddodd y cyfan yn un cyfanwaith fel mai tasg anodd fyddai rhannu rhwng yr athronydd yn siarad fel diwinydd neu'r diwinydd yn mynegi ei hun yn athronyddol. Tarddiad y llyfr yw'r darlithiau Laidlaw a draddodwyd yng Ngholeg Knox, Toronto ym 1979. Wrth reswm ni all adolygiad byr wneud fawr mwy na galw sylw at rai o'r materion a drafodir. Yn y bennod gyntaf edrychir ar natur y profiad crefyddol. Nid yw'n synied amdano fel ffenomenon emosiynol er bod i'r emosiwn ei le. Nid yw yn ei uniaethu ychwaith â phrofiad yn gyffredin. Ei graidd yw'r ymdeimlad o fodolaeth Duw, neu rialiti trosgynnol, a hwnnw yn rhoi i ni agwedd arbennig at y byd ac yn dylanwadu ar nodweddion allweddol eraill ein profiad yn gyffredinol. Un o'i ddylanwadau yw dyfnhau, grymuso a phuro yr ymwybyddiaeth foesol, ond brysia i ychwanegu bod moeseg yn medru sefyll ar ei thraed ei hun. Nid yw'r gydwybod per se yn grefyddol, ac nid yw bod yn grefyddol yn ein hachub rhag camsyniadau, ond hi yw'r prif gyfrwng i ddatgelu i ni yr hyn yw Duw yn Ei berthynas â ni. Ond tybed nad oes eithriadau bob amser ac oni fyddai rhai o'r cyfrinwyr am honni bod yr ymdeimlad o Dduw yn gallu cronni mewn un profiad digamsyniol arbennig a gwahanol i bob profiad arall ac yn fwy real na dim arall iddynt — eu corfT, eu henw, eu hanadl? Beth bynnag am hynny ceir yma ddisgrifiad sensitif o'r amrywiol ffyrdd y ddefTroir ac y cynhelir yr ymwybyddiaeth crefyddol a'r modd y gellir ei golli neu osod y ffug a'r amrwd yn lle'r peth iawn. Tanlinellir pwyslais a geir yn gyson yng ngweithiau yr Athro H. D. Lewis sef bod y trosgynnol uwchlaw'r meidrol, ac er fod y creadur yn ddibynnol ar fod Goruchaf nid yw'n ddarn ohono. Pwysleisir y gwahaniaeth rhwng y Creawdwr a'r creadur a dyma wrth gwrs lle y gwelir ymwahanu rhwng llwybrau'r monydd a'r dehonglwr theistaidd, sy'n cyfateb yn fras (ond dim ond yn fras) i'r gwahaniaeth rhwng Hindŵaeth gyfriniol a'r crefyddau proffwydol. Y gwahaniaeth mawr wrth gwrs cyn belled â bod ffydd Gristnogol yn y cwestiwn yw Person