Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Philosophical Investigations Vol. 5, No. 1. Editor: D. Z. Phillips Fe gychwynodd y cyfnodolyn hwn ei yrfa bum mlynedd yn ôl, ond y mae'n awr yn dechrau cyfnod newydd o dan olygyddiaeth Dewi Z. Phillips, a chaifT ei gyhoeddi a'i brintio o hyn ymlaen gan Basil Blackwell. Ei bwrpas, meddir, yw lledaenu ffyrdd o athronyddu a ddatblygwyd o dan ddylanwad Wittgenstein, Austin a Ryle. Pam Austin a Ryle tybed? Rhan o'r rheswm, efallai,yw fod i'r ddau hyn Ie arbennig o fewn cylch dylanwad Wittgenstein cyn ac wedi'r Ail Ryfel Byd, a bod eu gwaith hwy wedi ennill sylw arbennig wedi hynny. Mae'n bosibl felly mai prif ddiddordeb y cyfnodolyn yn y pen draw ydyw'r math o athroniaeth sydd yn dangos dylanwad Wittgenstein, neu yn ymateb i'r dylanwad hwnnw mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Yn sicr, dylanwad Wittgenstein, yn hytrach na Austin neu Ryle a welir ar dudalenau'r rhifyn cyntaf i ymddangos yn y diwyg newydd. Ymgais i ddehongli neges Wittgenstein yn ei lyfr On Certainty ydyw erthygl Malcolm, ac er fod y golygydd yn addo na fydd y cyfnodolyn yn cau ei lygaid i athronyddu cyfoes, ac nad ei swyddogaeth fydd amddifTyn rhywbeth y gellid tybied ei fod yn draddodiad Wittgensteinaidd, amddiflyniad braidd yn anfeirniadol a geir gan Malcolm. Y mae Cora Diamond, yn yr ail erthygl, yn feirniadol o'r duedd ymysg athronwyr i gadw trafodaeth foesol o fewn cylch rheolau o ymresymu sydd yn cyfyngu ein hamgyffred o foesoldeb a'i berthynas â'r natur ddynol. Prif bwynt Winch, yn ei gyfraniad ef, ydyw fod rhai elfennau o gyd-destun darn o lenyddiaeth yn dwyn perthynas fewnol â'r lenyd- diaeth, a bod gwerthfawrogiad ohonynt yn hanfodol i ddealltwriaeth iawn o'r llenyddiaeth. Pwnc H. A. Nielson ydyw'r syniad fod yna ramadeg sydd yn gyffredin i'r gwahanol ieithoedd a bod y ramadeg honno wedi ei datblygu fel rhan o'n cynhysgaeth feddyliol cyn i ni ddechrau dysgu iaith ein man, yn wir, cyn ein geni. Chomsky biau'r ddamcaniaeth, ond y mae Nielson yn feirniadol ohoni. I gloi'r rhifyn fe geir erthygl gan Jenny Teichman yn trafod pasifistiaeth. Nid oes ddim ar wahan i erthygl Malcolm sydd yn uniongyrchol ddyledus i syniadau Wittgenstein, ond y mae dyn yn ymglywed â rhywbeth o'i ddylanwad yn erthyglau Diamond, Winch a Nielson. Nid oes arlliw o ddylanwad Austin na Ryle yn unman hyd y gwelaf i. Wrth gwrs, y gwir yw nad wrth gyhoeddiadau am bolisi, nac wrth gynnwys un rhifyn yn unig, y mae beirniadu cymeriad cyfnodolyn. Y peth pwysig ydyw'r modd y mae'r golygydd yn llywio datblygiad ei gyfnodolyn dros rifynau a chyfrolau. Dymunwn rwydd hynt a phob llwyddiant i'r golygydd newydd. Colegy Brifysgol, Aberystwyth. O. R. JONES.