Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrifau Athronyddol ar Grefydd, Cyfieithwyd a Golygwyd gan John Daniel a John Fitzgerald, Cyfres Beibl a Chrefydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1982 tt. 194, Pris £5.95. Yn ddoeth — yn enwedig ar gyfer dysgu athroniaeth crefydd- dewisodd golygwyr y gyfrol hon ei hadrannu yn ôl pynciau yn hytrach na phersonau. Wrth fabwysiadu'r dull hwn llwyddwyd, i raddau helaeth, i sicrhau amrywiaeth a chydbwysedd barn wrth drafod y gwahanol destunau ac fe fydd hyn o gymorth mawr i'r efrydydd i werthfawrogi natur gwrthdaro athronyddol. Yn anffodus, ni ddaliwyd at y patrwm hwn yn adran olaf y gyfrol lle y ceir un ochr o'r ddadl yn unig ar ddau bwnc tra phwysig. Y mae chwe prif adran i'r gyfrol sy'n ymdrin â saith testun canolog sef, (i) Y Dadleuon Clasurol ynglyn â bodolaeth Duw (ii) Cysyniadau o Dduw (iii) Ffydd (iv) Problem y drwg (v) Iaith crefydd (vi) Gwyrthiau ac Anfarwoldeb. Cyfieithir dwy erthygl ar hugain a cheir rhagymadrodd byr i bob un ohonynt i ddangos cyfeiriad y dadleuon. Ar ddiwedd pob adran ceir awgrymiadau gwerthfawr ynglyn â'r lleoedd i chwilota ymhellach. Ni roddir sylw cytbwys i bob pwnc. Ceir, er enghraifft, ddeg erthygl ar ddiwinyddiaeth naturiol ond un yr un yn unig ar wyrthiau ac anfarwoldeb. Diau fod yr anghytbwysedd hwn yn adlewyrchu diddor- deb athronyddol a safbwynt crefyddol y ddau fu wrthi'n dethol. Wrth drafod yr holl ddadleuon clasurol rhoddwyd ystyriaeth i bob agwedd o'r pwnc. Bron. Ni cheir barn naill ai'r un diwinydd na'r un athronydd a ddadleuodd mai disynnwyr yw'r dadleuon clasurol yma. Erthygl M. Malcolm sy'n dod agosaf i awgrymu hynny. Ar ddechrau'r ail adran ceir yr addefiad diddorol mai'r cwestiwn sydd yn cael blaenoriaeth yn ein cyfnod ni, 'yr ail oes', yw "a ydym yn sicr ein bod yn deall y gair 'Duw'?" A gwneir y sylw pellach. 'Rhy ychydig o athronwyr crefydd sydd wedi sylweddoli ein bod yn byw yn yr ail oes'. Yng ngoleuni hyn braidd yn annisgwyl yw'r dewis yma, sef erthyglau gan y ddau ddiwinydd H. P. Owen a P. Tillich. Mae'n wir fod cyferbyniad clir rhwng ceidwadaeth a radicalaeth diwinyddol y naill a'r Hall ond onid gwell 0 lawer fyddai dewis athronydd neu ddau yma i drafod y pwnc sylfaenol hwn sef rhesymeg y syniad o Dduw? Adran fer sydd ar 'ffydd' ac y mae absenoldeb cyfraniadau mwy radicalaidd i'r