Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADDYSG A GWYDDONIAETH gan Lywydd y Gynhadledd Testun syndod yw mai dyma'r tro cyntaf i'r Gynhadledd Athronyddol drafod addysg er 1960, gan i'r pum mlynedd ar hugain diwethaf fod yn gyfnod o gyfnewid mawr yn yr ysgolion. Hyd y gallaf weld yn yr Efrydiau nid ydych erioed wedi trafod athroniaeth yr ysgol gyfun ac nid yw hyn ond adlewyrchiad o'r diffyg trafod ar egwyddorion addysgol a welir yng Nghymru. Yn eich cynhadledd ym 1960 bu'r diweddar T. I. Davies yn trafod Egwyddorion Addysg Wyddonol a dewisais innau destun cyffelyb er mwyn craffu ar un agwedd o'r hyn sydd wedi digwydd ym myd addysg. Gwelwn bellach fod 1960 yn drothwy pwysig mewn addysg, cyn dyfodiad yr ysgol gyfun a'r twfmawr mewn addysg uwchradd. Yr oedd yn drothwy mewn addysg wyddonol, cyn dyfodiad y cynlluniau datblygu cwricwlwm a noddwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield, gan fod cymdeithasau'r athrawon gwyddonol ar fin cyhoeddi dogfen bolisi bell-gyrhaeddol. Yr oedd yn drothwy mewn athroniaeth wyddonol hefyd oherwydd fod llyfr Karl Popper, The Logic ofiScientific Discovery, newydd ei gyhoeddi yn Saesneg am y tro cyntaf (Jones, 1983). Fe gofia rhai ohonoch hefyd fod llyfr C.P. Snow The Two Cultures and the Scientific Revolution newydd ymddangos ac wedi bod yn destun trafod brwd. Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach mae'n bosibl ein bod ar drothwy cyfnod newydd eto gydag addysg dechnegol a galwedigaethol yn bwgwth newid gwedd ein hysgolion cyfun. Yn fuan wedi cynhadledd 1960, fel y dywedais, cyhoeddodd cym- deithasau'r athrawon gwyddonol (yr oedd dwy gymdeithas yn bod y pryd hynny, i ddynion a merched, a ddaeth bellach yn un) bolisi yn gosod allan argymhellion pendant ynglyn â datblygiad addysg wyddo- nol. Y nod cyntaf oedd diweddaru meysydd llafur gwyddoniaeth a chynnwys gwybodaeth gyfoes yn y meysydd llafur hynny. Yr ail nod oedd gwneud y dysgu ei hun yn fwy gwyddonol, a sicrhau fod y broses o du'r athro ac o du'r disgybl yn adlewyrchu'r dull gwyddonol, fel bod y disgybl yn dod i amgyffred dull y gwyddonydd o weithio yn hytrach na derbyn pentwr o ffeithiau ar gyfer eu hatgynhyrchu mewn arholiad. Y trydydd nod oedd ail-wampio'r dull arholi i adlewyrchu'r amcanion newydd. Cafodd y polisi hwn dderbyniad llalriol gan fwyafrif aelodau'r cymdeithasau, ond rhaid cofio mai polisi wedi ei lunio gan athrawon ysgolion gramadeg ar gyfer plant mewn ysgolion gramadeg ydoedd. Nid oedd athrawon ysgolion modern at ei gilydd yn aelodau o'r cymdeitha- sau ac nid oedd ganddynt lais na pholisi clir ar gyfer eu disgyblion hwy. Apeliai'r polisi at wyddonwyr y Prifysgolion ac at leygwyr a goleddai syniadau C.P. Snow ynglyn â'r ddau ddiwylliant. Derbyniodd y