Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADDYSG A'R CREFYDDAU Pam sôn am grefyddau eraill o gwbl? Un ateb fyddai ateb y dringwr pan ofynnir pam y mae'n dringo'r mynyddoedd, sef 'Am eu bod nhw yno'. Ond gallasai'r beirniad herio ymhellach, gan ofyn 'Onid llygaid yr ynfyd sydd ar gyrrau'r ddaear?' Atebwn innau 'y byd yw y filltir scwar, bellach'. 'Does dim dianc rhag y ffaith mai trigolion yr un byd ydym. Pan ddistewodd y gwleidyddion ynglyn â hyn, llefarodd y canwyr roc a thrwy'r ymateb i raglenni Lwe Aid ac 'Arian Byw' llwyddo i ddangos y newyn sydd ym mynwes miliynau am gyfle i wneud daioni, ac estyn dwylo dros y môr. Daw'r bocs â'r byd i'r gegin bob nos. Y byd yw cynefin y cartre erbyn hyn er drwg neu er da, ac mae'r estron o Ethiop du wedi dod yn gymydog anghenus ar y scrin. Daw hefyd atom dristwch brwydrau gwaedlyd Libanus, Sri Lanka, De Affrica, Gogledd Iwerddon, ac ni ellir anwybyddu cyfrifoldeb a chyfle amrywiol grefyddau yn y sefyllfaoedd argyfyngus hyn. Rhaid pwysleisio serch hynny bod y crefyddau i'w hastudio er eu mwyn eu hunain, am eu bod nhw yno, ac nid oherwydd unrhyw sgil resymau. Mae'n wir na ellir cynnal unrhyw astudiaeth in vacuo. Rhaid cydnabod, e.e. wrth astudio'r Gita neu'r Beibl, nad tynnu o stordy o gysyniadau niwtral a wneir gan fod ffurfiau mynegiant a chategorïau ymadrodd wedi eu rhagbenderfynu gan amgylchedd y diwylliant a roes fod iddynt. Mae'n ofynnol parchu cefndir y deunydd a ffurfiau ei gyflwyniad. Yna, y mae gan astudiaethau crefydd ei gofynion a'i strwythur ei hun ar wahân i bob cymwynas a all ddeillio ohoni. Er hynny daw elw ymarferol, mi gredaf, o astudiaeth a all ein cynorthwyo i ddeall ein gilydd yn well, i fyw yn heddychlon ac i sylweddoli mai un yw'r rhwydwaith sy'n cysylltu pob copa gwalltog ohonom yng nghymuned yr hil ddynol. Angen penna'r ddaear yw'r cariad sy'n parchu cymydog, ond y mae parchu cymydog yn golygu parchu ei grefydd a'i ddiwylliant. Nid yw addysg neb ohonom yn gyflawn heb wybod rhywbeth am grefyddau ein cymdogion. Daeth llawer eraill i'n plith ni erbyn hyn. Mewn rhai ysgolion yn y dinasoedd mawrion ceir Mwslimiaid ac Asiaid yn y mwyafrif, a daeth Indiaid y Gorllewin a'u fTurfiau arbennig hwy ar Gristnogaeth i'r ynysoedd hyn. Bu gennym gymunedau o Iddewon, Siciaid a diadelloedd Islamaidd yng Nghaerdydd ac erbyn hyn nid yw fTurfiau ar Hindŵaeth a Bwdhaeth yn gwbl ddieithr yng nghefn gwlad Cymru. Ond hyd yn oed heb y dylifiad hwn, gan fod y byd yn un gymdogaeth, (a hynny cyn i'r trigolion ddysgu beth yw bod yn gymdogion), ni ellir anwybyddu crefyddau sy' wedi bod mor ddylanwadol yn hanes dyn, ac sydd yn òl pob tebygolrwydd i aros gyda ni. Nid rhyw gicaion i ddiflannu dros ncs