Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYFODOL ADDYSG YN YR YSGOLION Wrth fy ngwahodd i draddodi'r ddarlith hon, nododd y Dr. O. R. Jones i Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion gynnal cynhadledd werthfawr ar broblemau addysg tua chwarter canrifyn ôl a'i bod yn amser addas i droi at y pwnc eto. Mae'n eironig braidd ein bod yn sôn am 'broblemau' chwarter canrifyn ôl a 'dyfodol' heddiw. Yn fy mhrofiad i o dros ddeng mlynedd ar hugain o weithio o fewn y gyfundrefn addysg, y cyfnod presennol yw'r un mwyaf problemus, yr un anhawsaf a'r un mwyaf rhwystredig. Er hynny, gwerthfawrogaf y gwahoddiad i ddod atoch heddiw ac yn ddiolchgar, wrth gael gwahoddiad i siarad ar destun addysgol, o gael maes gweddol ddiffiniedig. Yr ydych yn fy 'nghyfyngu' i faes ysgolion ond gan mai dyfodol addysg yw'r thema generig, mae'r heol yn llydan iawn o hyd, onid yn dragwyddol. Rhaid i mi hefyd wisgo mantell proffwyd ac y mae hynny'n anodd iawn yn y cyfnod ansicr hwn. Yr hyn y bwriadaf ei wneud yw disgrifio, mewn termau cyffredinol, y darlun cyfoes o'n hysgolion, fel yr ymddengys i mi o'r swydd yr wyf ynddi bellach ers dwy flynedd a hanner, gan geisio tynnu sylw at y dylanwadau a fu, ac sydd, yn effeithio ar addysg yn ein hysgolion. O ddeall y tueddiadau presennol, fe geisiaf nodi wrth fynd heibio pa rai ohonynt a fydd fwyaf tebygol o ddylanwadu gryfaf ar batrwm a chynnwys addysg yn y dyfodol agos ddiwedd y degawd hwn a dechrau'r 90au. Fel y dywedais, beth bynnag sydd o'n blaen, go brin y gwelwn ni gyfnod mwy argyfyngus na'r presennol. Ar ryw ystyr, mae'n gyfnod diddorol tu hwnt; mae'n gyfnod sy'n byrlymu o syniadau addysgol ac ail edrychir yn sylfaenol ar rai rhagdybiaethau gan amau dulliau, techneg a phwyslais. 'Fu erioed gymaint o ddiddordeb mewn addysg (efallai y byddai consyrn yn well gair). Mae'n naturiol bod rhieni, ym mhob cenhedlaeth, yn poeni ynglyn â dyfodol eu plant ond mae'r pryder eithafol a fynegir y dyddiau hyn gan rieni rhieni dosbarth canol yn fwyaf arbennig mewn perthynas â llwyddiant eu plant mewn arholiadau allanol yn niwrosis peryglus. Mae'n hawdd ei ddeall yn y cyfnod presennol o ddiweithdra ac mae'n gwbl gyson â'r pwyslais cynyddol ar addysg fel yr allwedd i ffyniant economaidd i'r unigolyn a'r wlad. Caf ddychwelyd at y thema hon yn y man. Bum mlynedd ar hugain yn ôl, pan oeddech yn trafod addysg yn y gynhadledd hon ddiwethaf, 'roedd newid mawr yn digwydd ym mhatrwm addysg gynradd yn dilyn syniadaeth a ddatblygodd dros yr ugain mlynedd blaenorol. Yr oedd yr arholiad 11 + ar fin diflannu (er llawenydd i'r mwyafrif yn sicr); 'roedd mwy o bwyslais ar addysg ddisgybl-ganolog; 'roedd yr hen ffurfioldeb yn diflannu a'r cwricwlwm addysg yn mynd yn lletach gan ymwneud fwy-fwy ag amgylchedd