Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADDYSG A'R PRIFYSGOLION Prin fod angen atgoffa unrhywun, a ninnau yng nghanol yr wythdegau, nad yw'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai hapus iawn ym myd addysg. Yn y degawdau diwethaf, yn wir ers yr ail ryfel byd, gellid seilio gobeithion ar dwf cyson mewn darpariaeth ysgol a choleg, ac ar gred ddiysgog fod y ddarpariaeth honno 0 les cynhenid i ddisgyblion a myfyrwyr yn ogystal ag i'r wladwriaeth. Daeth tro ar fyd. Bellach disodlwyd tyfiant gan grebachu, a chred gan ansicrwydd. Anodd felly gwrthwynebu'r haeriad a wnaed yn rhaglen Cynhadledd Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion taw yng nghyd destun sefyllfa o argyfwng y dewisiwyd y thema sef Dyfodol Addysg a dyna fydd sail yr erthygl hon ar addysg a'r prifysgolion. Gellir dadlau i'r newid hinsawdd hwn daro'r prifysgolion yn galetach efallai nag unrhyw sefydliad arall, oherwydd iddynt hwy weld tyfiant aruthrol ers y pumdegau, a'r newid cyfeiriad felly yn fwy ysgytwol. O'r herwydd bu'r trafod yn frwd a checrus, a chyhoeddwyd (er y toriadau!) adroddiadau a chyfrolau yn cynnig cyngor a gwaredigaeth. Nid oes brinder deunydd felly wrth geisio dewis, o blith y toreth cyhoeddiadau, benawdau ar gyfer erthygl fel hon. Y broblem yn wir yw penderfynu beth i'w gynnwys. Fodd bynnag, cyhoeddwyd, ym mis Mai 1985, un ddogfen sydd yn crynhoi ofnau, neu obeithion, pawb sy'n ymwneud mewn unrhyw ffordd ag addysg uwch, a honno oedd dogfen ymgynghor- 01 y Llywodraeth ar addysg uwch i'r 90au y Papur Gwyrdd ar addysg uwch. Pwrpas yr erthygl hon felly fydd tynnu sylw at rai o'r prif benawdau a gyfyd yn y Papur a cheisio trafod ychydig ar eu cefndir. Un pwynt yng nghyswllt termau. Mae'r testun yn cyfeirio at brifysgolion yn unig. Fodd bynnag, eisoes cyfeiriwyd at addysg uwch, sydd yn cynnwys, yn ogystal, athrofeydd a cholegau y 'sector gyhoedd- us' yn bennaf sefydliadau awdurdodau lleol. Y mae i'r rhain gyfraniad pwysig ac ni ellir osgoi eu cynnwys yn y drafodaeth. Felly, er taw prifysgolion yn unig a enwir yn y testun, bydd yr erthygl yn cynnwys o reidrwydd, gyfeiriadau at ddarpariaeth y 'sector gyhoeddus' hefyd. Addysg ar gyfer Galwedigaeth Nid oes fawr amheuaeth taw prif thema'r Papur Gwyrdd yw cyflwr yr economi a'r cyfraniad tuag at ffyniant economaidd y gellir ei ddisgwyl oddiwrth addysg uwch. Yn y cyswllt hwn canolbwyntir ar gyfrifoldeb addysg uwch i gynhyrchu gweithlu hyfforddedig; yn wir, teg yw dweud fod y pwrpas galwedigaethol yn cael ei ddyrchafu uwchlaw pob pwrpas arall y dylai prifysgolion a cholegau ymhel â hwy. Ai thema newydd yw hon? Yn sicr yr ateb yw na. O droi 'nôl i edrych ar hanes y prifysgolion cynharaf gwelir dylanwadau galwedigaethol cryf