Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADDYSG OEDOLION Wrth drafod agweddau traddodiadol tuag at addysg, dywed un adroddiad diweddar: Y mae'r rhan fwyaf o bobl yn y wlad hon yn meddwl am addysg fel rhywbeth a ddaw i ran plant a phobl ifanc yn unig fel paratoad ar gyfer byw fel oedolion. Ystyrir addysg ffurfiol ar ôl un ar bymtheg oed lel rhywbeth hanfodol i leiafrif yn unig. O'r oedran hwn ymlaen gwelir gyfnewid y gansen, (sef yr orfodaeth gyfreithiol ar rieni i sicrhau fod eu plant yn mynychu'r ysgol,) am abwyd (sef y cymhellion i gael pobl i aros mewn addysg amser-llawn).1 A'r adroddiad ymlaen i restru rhai o'r cymhellion hynny. Y prif gymhelliad meddir yw'r angen cynyddol am gymwysterau uchel os yw bobl am sicrhau y swyddi sy'n talu orau, sydd uchaf eu bri ac sy'n ddymunol i'w gwneud. Hynny yw, gorau po uched y gellwch chi ddringo i fyny ysgol addysg cyn neidio oddi arni i bwll nofio bywyd, oherwydd ucha' yn y byd yw eich cymwysterau addysg ar ddechrau eich gyrfa, ucha' yn y byd fydd y nôd y gellwch ymgyrraedd ato. Yr unig eithriadau i'r rheol hon i'w cydnabod yn yr adroddiad yw'r entrepreneur, y diddanwr, y mabolgampwr a'r troseddwr! Bydd ein diddordeb ni yma yn yr hyn sydd yn digwydd yn addysgiadol i bobl wedi iddynt neidio i mewn i bwll nofio bywyd. Mae gosod y toriad rhwng oedolion a phlant ar y fath sail yn torri ar draws categorïau'r Ddeddf Addysg. Addysg gynradd, addysg uwchradd ac addysg bellach yw categorïau Deddf 1944, ac y mae addysg bellach yn cynnwys addysg amser-llawn neu ran-amser sy'n dilyn yn uniongyr- chol yr addysg gafwyd i fyny at un ar bymtheg oed, boed hynny mewn ysgol, coleg neu ryw sefydliad arall, yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant neu weithgareddau diwylliannol y bydd pobl dros un ar bymtheg oed am eu dilyn yn ôl eu hamdden. Mae'r dosbarthiad yr wyf i am ei wneud rwan yn tynnu'r llinell yn union y bydd y broses o ennill cymwysterau cyn dechrau gweithio (neu cyn dechrau bod yn ddi-waith) yn cael ei chwblhau. Yn achos rhai daw hynny pan fyddant yn ymadael â'r ysgol yn un ar bymtheg oed, ond i eraill fe ddaw ar ôl cyfnod pellach yn y chweched dosbarth neu ar ôl cyfnod mewn coleg neu brifysgol. Byddaf i yma yn sôn am ddau gategori yn unig, sef addysg gysefin (addysg cyn dechrau mewn swydd) ac addysg ddilynol (addysg sydd ar gael o hynny ymlaen). Y termau Saesneg cyfatebol yw 'initial education' a 'continuing education Ar gyrraedd yr un ar bymtheg oed bydd tua 65% o bobl ifanc yn 1. Towards Continuing Education, A.C.A.C.E. 1979, td. 5.