Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADDYSG YNG NGHYMRU YN YSTOD YR OESOEDD CANOL Gwell imi geisio diffinio yn y lie cyntaf beth yn union a olygaf wrth yr Oesoedd Canol. Yn fras, dywedwn i mai'r cyfnod o tua'r flwyddyn 1100 hyd at tua'r flwyddyn 1500 oedd y Cyfnod Canol. Cyfnod oedd hwn a greodd ei ddiwylliant neu hyd yn oed ei ddiwylliannau'i hun; cyfnod a chanddo llawer iawn o nodweddion yn gyffredin trwy rannau helaeth o Ewrop, er bod yna lawer o wahaniaethau hefyd. Ni thâl inni feddwl mewn ffordd rhy statig am y cyfnod hwn; bu yna lawer o gyfnewidiadau a datblygiadau pur bwysig yn ystod y cyfnod ac erbyn y ganrif olaf y bymthegfed ganrif yn arbennig gellid canfod tueddiadau newydd iawn, fel y byddaf yn ceisio dangos. I ddechrau, i lawr at chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, dyweder, cyfnod o dyfiant grymus oedd hwn. Gwelwn egnïoedd cymdeithasol newydd yn ymgryfhau i bob cyfeiriad: ym myd economeg, gwleidyddiaeth, crefydd, celfyddyd ac addysg, prifia arwyddion digamsyniol diwylliant newydd a ffrwythlon. Honnir yn fynych mai'r Normaniaid a fu'n gyfrifol am hybu'r datblygiadau hyn; a dichon fod hynny'n wir i ryw raddau. Ond hyd yn oed pe na ddaethai'r Normaniaid erioed ar ein cyfyl, ymddengys yn sicr i mi y byddai Cymru wedi ymglywed â'r grymoedd newydd hyn ac ymateb yn hoyw iddynt. Ond er mor fywiog ac egnïol oedd cyflwr cymdeithas am lawer o'r Cyfnod Canol ac er cymaint ei gyfraniad i addysg a sefydliadau addysg Ewrop, rhywbeth ar gyfer lleiafrif o bobl yn unig oedd addysg ffurfiol yn ystod yr oes hon er bod yna lawer mwy o hyfforddiant o bob math yn cael ei gyfrannu nag y byddwn yn fynych yn cofio. Y rheswm pennaf dros gyfyngu cyfleusterau addysg ffurfiol oedd nad oedd fawr o alw nac angen amdanynt ymhlith lleygwyr yng Nghymru'r cyfnod hwn. Mewn cymdeithas fugeiliol gymharol dlawd fel honno a fodolai yng Nghymru, a'i dosbarthiadau isaf yn gaeth wrth y tir a'u harglwyddi, nid oedd yr awydd nac yn wir y posibilrwydd yn eu mysg i ddysgu mwy na chrefftau oesol magu stoc a thyfu cnydau. Hyd yn oed ymhlith y rheiny oedd yn wyr rhydd a breiniol, nid oedd eisiau llawer mwy na dysgu techneg hela a milwrio ac efallai rhai o foesau llys a neuadd. Ond, bid siwr, yr oedd rhai ag arnynt angen am fwy o addysg: cyfreithwyr a gweinyddwyr; beirdd a llenorion; rhai o'r crefftwyr; ac yn bennaf oll, y clerigwyr. Gawn ni ddechrau felly gyda'r clerigwyr. Yr Eglwys, trwy Ewrop gyfan, a fuasai'n bennaf gyfrifol am gadw a noddi'r diwylliant a oroesodd o'r byd clasurol. Ni allai ac ni fynnai hi mo'i barbareiddio'n llwyr. Yr Oesoedd Canol, o'r braidd fod angen imi ddweud, oedd awr anterth yr Eglwys Babyddol. Ganddi hi oedd monopoli'r ysgolion gramadegol a sefydlasid bron yn llwyr o dan ei nawdd a'i hawdurdod. Yr eglwysi cadeiriol ac ambell eglwys bwysig arall oedd prif ganolfan- nau'r ysgolion hyn. Ynddynt hwy y meithrinwyd ac yr addysgwyd y