Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARLITH GOFFA R.I. AARON GWYDDONYDD ANWYDDONOL? Rhai meddyliau am Alfred Russel Wallace (1823-1913) Hoffwn drafod rhai agweddau ar bersonoliaeth gymhleth Alfred Russel Wallace gyda golwg neilltuol ar ei gyfraniad sylweddol at astudiaethau biolegol yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn fwyaf arbennig, hoffwn dynnu eich sylw at y berthynas bosibl rhwng dwy wedd ddiddorol ar ei ddatblygiad fel biolegydd — yn gyntaf y dylanwadau ffurfiadol a fu arno yn ystod ei gyfnod cynnar yng Nghymru, ac yn ail, ei gryn anuniongrededd ac ambifalrwydd meddwl mewn materion deallusol. Paham Wallace? Wel, am ei fod, i mi, fodd bynnag, yn meddu ar un o bersonoliaethau mwyaf diddorol y bedwaredd ganrif ar bymtheg — 'a pretty strange bird' chwedl Michael Ruse wrth adolygu llyfr McKinney ar Wallace yn 1974. Ac at hyn — neu yn wedd arbennig arno am ei fod am gyfnod ffurfiadol yn ei fywyd â chysylltiadau cryf â Chymru a chanddo ymrwymiad deuol, clir i genedlaetholdeb Cymreig, ar y naill law, ac i Sosialaeth ar y llaw arall peth fyddai, ynddo'i hunan, yn ddigon i'w labelu'n dderyn dieithr iawn ym marn rhai. Mae anuniongrededd Wallace ar ei amlycaf yn ei wyriadau cysyniadol mewn rhai materion ffiniol; ac y mae modd cyferbynnu hyn a'r cryn uniongrededd a fu'n nodwedd mor amlwg o'i astudiaethau naturiaethegol. Pa anuniongrededd? Wel, anuniongrededd gyda golwg ar y norm cydnabyddedig ar gyfer gwyddoniaeth sefydliadol ei gyfnod. A phrin y gellid cael gwell cynrychiolydd o'r norm honno na Charles Darwin. 'Roedd Darwin yn ymgorfforiad o bopeth a oedd yn wyddonol dderbyniol ac yn wyddonol uniongred ar ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gorchwyl cymharol hawdd felly yw cyferbynnu Wallace â Darwin yn eu hamryfal weithgareddau ac yn y syniadaethau a ddeilliodd ohonynt. Gair byr felly am Charles Darwin. Ar hyd y daith 'roedd bywyd a datblygiad Darwin yn ddrych i uniongrededd ei ddosbarth a'i broffesiwn, a hyn ar adeg pan oedd uniongrededd yn gyfystyr â chydymffurfio â phatrwm sefydledig neu â gweithredu'n unol â chanllawiau rhagbenodol. Yn fab i feddyg llwyddiannus yn Amwythig ac yn wyr i Erasmus Darwin y gwyddonydd, cafodd ei addysg ym Mhrifysgolion Caeredin a Chaer- grawnt. Priododd 'yn ddiogel' i dylwyth y Wedgewoods ac am weddill ei oes bu'n byw ym mhentref Downe, yn rhyw fath o is-sgweiar wedi'i amgylchynu a'i warchod gan ei lyfrgell, ei gyfeillion sefydliadol, ei 'M. Ruse, The Darwin industry — A critical evolution' (sic), Hist. Sci., XII (1974), 43-58.