Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHRONIAETH A CHYMDEITHASEG GWYDDONIAETH Hanesyddiaeth hanes gwyddoniaeth Fy mhwrpas yn y ddarlith hon fydd amlinellu rhai datblygiadau cymharol ddiweddar o fewn hanesyddiaeth gwyddoniaeth, yn arbennig y datblygiadau cymdeithasegol a ymddangosodd dros y ddau ddegawd diwethaf. Ar 81 amlinelliad byr o'r tueddiadau traddodiadol o fewn hanes gwyddoniaeth, yn ogystal â'r safbwyntiau cymdeithasegol mwy diweddar, fe geisiaf ddangos drwy esiampl, rai o oblygiadau'r datblygiadau cymdeithasegol tuag at ein dealltwriaeth o wyddoniaeth. Yn benodol, fe fyddaf yn codi rhai cwestiynau ynglyn â dehongliad Thomas Kuhn o ymddangosiad damcaniaethau ynglyn â chadwraeth ynni ynghanol y ganrif ddiwethaf er mwyn ceisio dangos yr angen am agenda hanesyddol newydd.1 I gloi'r ddarlith fe awgrymaf fod angen stori newydd gan athronwyr gwyddoniaeth hefyd er mwyn dod i dermau â'r ddealltwriaeth hanesyddol newydd o'r ymgyrch wyddonol. Yn draddodiadol bu dwy ffordd o astudio ac ysgrifennu hanes gwyddoniaeth yn y byd Eingl-Americanaidd. Ar un llaw, pwrpas ysgrifennu hanes gwyddoniaeth oedd dathlu athrylith gwyddonydd unigol. Drwy ailadrodd hanes gwyddonydd o fri, megis Syr Isaac Newton er enghraifft, credid y medrid ail-greu darlun o'r athrylith personol a arweiniodd at ddarganfyddiadau neu ddatblygiadau ysgubol. O'r satbwynt hwn, pererindod unig yw'r ymgyrch wyddonol, a thasg yr hanesydd yw dilyn ac edmygu'r gwyddonydd. Esiampl dda o'r math yma o hanes yw cofiant John Tyndall o'i ragflaenydd fel Athro yn y Sefydliad Brenhinol: Faraday as a Discoverer (1870). Yma gwelwn Tyndall yn creu darlun o Michael Faraday fel 'archetype' o'r meddwl gwyddonol. Ar y llaw arall bu tueddiad i ddefnyddio hanes gwyddoniaeth fel modd o arddangos methodoleg. Mae'r tueddiad yma yn fwy diweddar ar y cyfan, er y medrir canfod esiamplau yn y gorffennol, megis astudiaeth Joseph Priestley, The History and Present State of Electricity (1767) o'r ddeunawfed ganrif, neu gampwaith William Whewell, The History of the Inductive Sciences (1837) o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.3 Yn benodol, yng nghyswllt gwaith athronwyr megis Karl Popper, Thomas Kuhn ac Imre Lakatos y bu'r tueddiad methodolegol fwyaf amlwg, er ei fod i'w weld yng ngwaith eu rhagflaenwyr positifistaidd yn ogystal. Dangosodd Popper a Lakatos y medrir defhyddio hanes gwyddoniaeth i arddangos eu syniadau 'Thomas S. Kuhn, 'Energy conservation as an example of simultaneous díscoveη', The Essentìal Tension (Chicago IL: Chicago University J>ress, 1977). 2John Tyndall, Faraday as a Discoverer (Llundain, 1870). 'Joseph Priestley, The History and Present State ofElectrícity (Llundain, 1767); William Whewell, The History ofthe lnductìve Sciences (Uundain, 1837).