Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyn dechrau rhaid i mi gyfaddef — ac ymddiheuro nad oes gennyf unrhyw gymhwyster o fath yn y byd fel nac athronydd na diwinydd; nid astudiais erioed mo'r naill bwnc na'r llall fel rhan o gwrs coleg. Ysgafn ac arwynebol fydd fy sylwadau. Ymhellach menter go fawr yw ymgymryd â thestun o'r fath, a hynny oherwydd natur arbennig Cymru. Y mae hanes crefydd yn cael ei seilio i raddau helaeth ar y pethau sydd wedi goroesi: ar adeiladau a'u cynnwys amrywiol, ac ar lawysgrifau, yn ddogfennau a chroniclau a chofhodion, heb bob amser, yn anffodus, gadw llygad am rai ffug. Rhaid peidio ag anghofio mai mewn eglwysi mawr y ceir y rhain, mewn mynachlogydd neu eglwysi gorwych trefi dan ddylanwad urddau crefft, eglwysi dan nawdd tirfeddianwyr mawr neu brif eglwys cwmwd. Beth am y cannoedd o eglwysi bychain diarffordd yng nghefn gwlad? — a chefh gwlad oedd bron y cyfan o Gymru'r Oesoedd Canol. Pa fath o wasanaethau a gynhelid ynddynt hwy? A phwy oedd yn gofalu amdanynt ac yn hyfforddi'r trigolion? Cwestiynau anodd iawn eu hateb gydag unrhyw radd o sicrwydd. Yn anffodus mae'r wybodaeth am esgobaeth Bangor yn brinnach nag am ddim un o'r tair hen esgobaeth arall yng Nghymru. Yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif yr ymffurfiodd esgobaethau Tyddewi a Llandaf yn unedau tiriogaethol, a chreadigaeth Normanaidd, o ail chwarter yr un ganrif, yw esgobaeth Llanelwy; ar y llaw arall y mae'n bur debyg fod esgobaeth Bangor yn uned diriogaethol o'i chychwyn cyntaf, ganol y chweched ganrif, gyda'r esgob yn gofalu am deyrnas Gwynedd, beth bynnag oedd maint y deyrnas honno bryd hynny. Yn weddol gynnar yn eu hanes lluniodd y tair esgobaeth arall lyfrau yn cynnwys dogfennau, siartrau, bucheddau saint ac ati, i geisio profi eu hawliau, eu heiddo a'u breintiau. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus yw Llyfr Llandaf, a gasglwyd ynghyd ganol y ddeuddegfed ganrif; yr un dyheadau a ysgogodd Rigyfarch i lunio Buchedd Dewi tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg, ac i'r un traddodiad y perthyn Llyfr Du Tyddewi 1326, a Llyfr Coch Asaff, y rhan fwyaf ohono wedi ei ysgrifennu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg efallai. Yr oedd ar yr esgobaethau newydd angen 'traddodiadau a dogfennau' i'w cynnal, ac i geisio profi hawliau brodorol; ac yr oedd y cyfnod yn eithriadol ffafriol, o'u safbwynt hwy, at 'ddarganfod' y rheiny, cyfhod pan oedd ffugwyr 'proffesiynol' yn llunio dogfennau a myth a chwedl. Ni chynhyrchodd esgobaeth Bangor ddim byd o'r fath; nid oedd arni angen hynny, yr oedd wedi ei hen sefydlu. Yn sgil y Normaniaid cyrhaeddodd yr urddau mawr mynachaidd a sefydlu mynachlogydd yma a thraw, a phan roddwyd degymau plwyfi 'Wendy Davies, M Early Welsh Microcosm (Llundain, 1978), 5.