Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

unrhyw nodweddion ond mas yn symud dan ddylanwadau achosol sydd ganddo. Y mae bydysawd Laplace yn debyg i fwrdd snwcer di-ben-draw lie mae'r peli yn rhedeg o gwmpas ac yn taro'i gilydd. Ond mae gan bob bwrdd snwcer ymylon sydd yn effeithio ar gwrs y peli, a dibynna'r effaith ar siâp y bwrdd. Diddorol fyddai dychmygu gêm snwcer ar fwrdd crwn. Yn y byd sydd ohoni, diffinnir unrhyw system ffisegol gan ei therfynau. Cafwyd enghraifft o hyn wrth drafod tonnau ar lyn. Pethau materol yw'r ffiniau eu hunain, ac yn aml o ansawdd gwahanol i'r system a gyfyngir ganddynt. Fel y dangoswyd eisoes i ddeall beth sy'n digwydd yn y system rhaid gwybod beth yw'r cysylltiadau achosol rhwng elfennau'r system a hefyd gwybod natur y ffiniau neu'r terfynau. Rhaid wrth y ddeubeth i ddarogan ffawd y system. Penderfynir beth sy'n digwydd mewn unrhyw system ffisegol gan achosion ac amodau.6 Coleg Prifysgol Cymru Evan. L. James Aberystwyth 'Efallai y gellid galw effaith y cysylltiadau achosol yn benderfyniaeth fewnol ac effaith yr amodau ffiniol yn benderfymaeth allanol (ar un olwg, dim ond penderfyniaeth fewnol sydd gan Laplace). Gweithia'r naill oddi fewn i'r system a'r llall o'r tu allan, megis (rhyw fath o 'achosiaeth tuag i fewn' neu efallai 'tuag i lawr'). Yn ddiddorol iawn ceir gan Popper ymadrodd cyffelyb yn ei lyfr, Self and the Brain, sef yr ymadrodd 'downward causation'. Gallem alw achosiaeth arferol yn 'upward causation'! Y mae'r ymadroddion 'achosiaeth tuag i lawr' ac 'achosiaeth tuag i fyny' yn cyfleu'r syniad fod gwrthrychau ar wahanol lefelau, gyda gwrthrychau ar un lefel yn penderfynu beth sy'n digwydd ar lefel arall. Dwg hyn i gof gysyniad Popper am dri byd (Popper, loc. cit., t.1l4). Byd 1: byd ffiseg, cemeg a bioleg; byd pelau, cerrig, coed, meysydd grym ac ati. Byd 2: byd seicoleg: byd teimladau, ofn a gobaith, a phob math o brofiadau goddrychol. Byd 3: byd o greadigaethau'r meddwl dynol: llyfrau, celfyddyd, gwerthoedd moesol, damcaniaethau gwyddonol. Mae'r tri byd, yn 81 Popper, yn achosol agored (is causally open) y naill i'r llall, sef Byd 1 i Fyd 2, a Byd 3, yn ogystal â Byd 3 yn agored i Fyd 2 a Byd 1. Braidd yn or-syml yw hyn. Gwell fyddai meddwl yn nhermau dilyniant o lefelau megis: gronyn elfennol, atom, molecwl, molecwl mwy cymhleth, cell, organ o'r corff, organeb fyw.