Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wrth ddadansoddi'r cysyniad 'ystyr' yn nhermau amodau gosodiad (assertion conditions), yn edrych i'r cyfeiriad hollol anghywir, yn 81 Diamond. A rhagddi ymhellach i esbonio natur y camddeall o'r cysyniad 'dilyn rheol'. Dengys fod y dryswch a geir yn y cyswllt hwn hefyd yn deillio'n uniongyrchol o'r methiant i werthfawrogi mai rheolau ym mywydau pobl yw rheolau gramadegol. Cytuna Diamond a safbwynt Rhees: grammatical rules are rules of the lives in which there is a language' Cyfaill a disgybl arall i Wittgenstein oedd, bellach y diweddar, Athro Norman Malcolm. Un o erthyglau enwocaf Rhees yw 'Wittgenstein's Builders'. Ynddi, beirniada Rhees yr honiad, o eiddo Wittgenstein yn yr Investigations, y gallai iaith o ychydig eiriau iaith adeiladwyr a ddisgrifir yno — fod yn iaith gyflawn. Ymgais i amddiffyn Wittgenstein a geir gan Malcolm yn y gyfrol hon. Er i Malcolm addef, ar y naill law, ei fod yn cytuno â beirniadaeth Rhees, os cyfyngir y disgrifiad o'r adeiladwyr i'r hyn a geir ohonynt yn yr Investigations, ceisia, ar y llaw arall, ddangos (ar sail beth ddywed Wittgenstein yn 7ettel am yr adeiladwyr hyn — eu bod yn debyg i ni, eu bod yn meddu ar yr un ymatebion cyntefig â ni, er enghraifft a thrwy ddefhyddio ein dychymyg) y gallai Wittgenstein fod yn gywir yn ei honiad fod yr iaith o bedwar gair yr adeiladwyr yn iaith gyflawn. Ni ellir gwneud tegwch a'r dadleuon a geir yma mewn adolygiad. Ond methais gael fy argyhoeddi gan ddadleuon Malcolm. Fy anhawster yw hyn: yr unig beth a geir yn y disgrifiad o'r adeiladwyr yw eu gweithgarwch a'r pedwar gair a leferir ganddynt wrth weithio. Ond sut y mae'r bobl yma'n meddwl? Os oes, er enghraifft, camddeall rhwng dau adeiladwr, a ydyw un ohonynt yn gallu gofyn i'w hun 'Beth mae e'n 'i ddweud nawr? Ai gofyn i mi, neu fy ngorchymyn y mae?' Sut y gall yr adeiladwr feddu ar y cysyniadau o beth ydyw i ofyn, i amau, i ateb, i gamgymryd, i gywiro camgymeriad, ac ati, heb iaith ehangach na'r pedwar gair sydd ganddo? A beth am y 'mi' ac 'ef a'r arwyddocad sydd iddynt yng nghyd-destun hunaniaeth bersonol? A ydyw'r adeiladwyr yma'n adnabod eu hunain heb y cysyniadau hyn? Un arall a fu'n dysgu am flynyddoedd yn Abertawe ac yn cydweithio gyda Rhees yw'r Athro Roy Holland. Yn 1982 traddododd golygydd arall y gyfrol hon, yr Athro Peter Winch, ddarlith i'r Academi Brydeinig ar 'Ceasing to Exist'. Bu'r ddarlith hon yn symbyliad i gryn drafodaeth a cheir ymateb gan Holland iddi yma. Teitl papur Holland yw 'Lusus Naturae' sbri natur' ac ynddo mae'n trin y broblem o sut y deallwn y ffenomenau a'r digwyddiadau hynny sydd mor eithriadol fel eu bod yn peri tramgwydd i'n deall a'n defnydd arferol o gysyniadau. 'Nôl cyn belled a 1965 cyhoeddodd Holland bapur ar natur y gwyrthiol. Ynddo, honnodd nad yw'n amhosibl i ni gael profiadau sydd megis, yn gwrthddweud ein profiadau normal a'n synnwyr cyffredin. Eddyf Holland yn ei gyfraniad yma nad yw am ddweud dim sy'n hollol newydd neu'n wahanol iawn i