Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffederaliaeth Proudhon 'Have we been studying the wrong thinkers, and even the wrong countries?' Kenneth D. McRae 1. Proudhon a'r athronwyr gwleidyddol Ar 15 Mawrth, 1860, sgrifennodd Pierre-Joseph Proudhon, tad anarchiaeth, at Alexander Herzen, 'tra fo'n tywysogion yn creu chwalfa a chyflafan, gadewch i ninnau roi cychwyn, trwy'n dysgeidiaeth, ar y ffederasiwn Ewropeaidd'.2 Yn 61 Isaiah Berlin, Herzen yw'r meddyliwr cymdeithasol mwyaf a gynhyrchodd Rwsia, ac un o'i llenorion mwyaf hefyd: chwyldroadwr a ymwrthodai â ffanaticiaeth; sosialydd a dynnodd ysbrydoliaeth oddi wrth hen gymunedau cydradd cefn gwlad Rwsia, ond a gredai gydag angerdd yn rhyddid yr unigolyn hefyd. Ar adeg chwyldro 1848 yn Ffrainc, bu'n cydweithio'n agos â Proudhon, a ddylanwadodd yn ddwfn arno, fel y mae Berlin yn cydnabod.3 Yn wir, buasai Proudhon ei hun wedi bod yn destun delfrydol ar gyfer un o'r portreadau hynny o athronwyr gwleidyddol gwreiddiol sydd ymhlith gwaith gorau Berlin. Efallai ei fod yn adlewyrchu safle cyffredinol Proudhon yn y byd Saesneg nad ydyw Berlin wedi traethu arno ef fel y traethodd ar wŷr a ddysgodd oddi wrtho, fel Bakunin a Georges Sorel. Gwir ei fod wedi dweud fod gan Proudhon well grap na Marx ar ganlyniadau moesol a chymdeithasol ei oes, a dealltwriaeth ddyfnach o ddymuniadau'r dyn cyffredin; gwir fod Oakeshott yntau yn ei gyfrif fel 'ymchwiliwr mwyaf deallus y syniad o anarchiaeth, o bell ffordd'; a bod Harold Laski yn ystyried fod ei Du Principe Fédératìfyn un 0 lyfrau mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ond mewn adolygiad papur Sul y traethai Berlin, mewn nodyn troed y ddalen y cyfeiriodd Oakeshott ato, ac o lythyr personol y daw sylw Laski.4 Ni chynhwyswyd Proudhon mewn cyfresi fel Modern Masters neu Y Meddwl Modern. Ac er bod cryn drafod arno bellach ymhlith Americanwyr a Chanadiaid, tueddu i gael pennod mewn cyfrol ar anarchiaeth y mae yn Saesneg, yn hytrach na'r math o sylw a dderbyniodd Marx.5 Siom syfrdanol ar yr ochr orau yw'r ffordd yr olrheiniodd Bernard Crick, nid yn unig anarchiaeth, ond hefyd sosialaeth ddemocrataidd, yn 61 at Proudhon.6 Diau bod prinder cyfieithiadau o waith Proudhon i'r Saesneg yn un o achosion esgeulustod y Saeson yn ogystal â bod yn symptom o'u hagwedd tuag ato. Cyhoeddwyd cyfieithiadau o ddwy o'i gyfrolau yn yr Unol Daleithiau yn ystod y ganrif ddiwethaf ac un arall yn Llundain ym 1923.7 Bu rhaid aros tan 1979 am y nesaf, rhan gyntaf The Principle ofFederation, a gyhoeddwyd yn Toronto,8 er bod detholiad clawr papur gwerthfawr o'i waith wedi ymddangos yn Efrog Newydd yn 1969.9 Hyd y gwn, fodd