Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rush Rhees (1905-1989) Pwnc y rhifyn hwn o'r Efrydiau yw gwaith Rush Rhees. Y mae tri rheswm am hyn. Yn gyntaf, yr oedd Rhees yn athronydd mawr. Ym marn rhai ohonom, yr oedd Rhees ymhlith athronwyr gorau'r ganrif hon, ac o ganlyniad y mae ei waith yn teilyngu sylw. Yn ail, yr oedd Rhees o dras Gymreig ac yr oedd yn dra ymwybodol o hynny. Ac yn olaf, treuliodd Rhees bron y cyfan o'i fywyd proffesiynol yn dysgu athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe, a bu rhai ohonom sy'n perthyn i'r cylch bychan o athronwyr Cymraeg yn eistedd wrth ei draed, a chyffeswn i'w ddylanwad arnom fod yn drwm a pharhaol. Gorhendaid Rush Rhees oedd Morgan ab loan Rhys, neu Morgan John Rhys (1760-1804). Brodor o'r hen sir Forgannwg oedd ef, a bu'n weinidog yr Efengyl gyda'r Bedyddwyr am gyfnod yn sir Fynwy. Meddai ar feddwl radicalaidd, ac, ar ôl y Chwyldro Ffrengig ymwelodd â Pharis er mwyn darganfod drosto'i hun beth yn union oedd y sefyllfa yno. Tra yno, cyfarfu Rhys â'r Americanwr Benjamin Loxley, ac yn 1794 ymfudodd i'r America lle priododd ferch Loxley, sef Anne. Newidiwyd ffurf yr enw Cymraeg 'Rhys' i 'Rhees'. Tyfodd Rhees a'i ddisgynyddion yn enwog a phwerus yng ngwlad eu mabwysiad a chofnodwyd hanes y teulu yn y llyfr Rhees of Rochester gan John Rothwell Slater. (Ceir erthygl ar hanes Morgan John Rhys mewn erthygl ddiddorol gan Hywel M. Davies yn y rhifyn hwn o'r Efrydiau). Enwyd Rush Rhees ar ôl ei dad. Athro Astudiaethau'r Testament Newydd oedd Rush Rhees y tad, cyn iddo ddod yn Brifathro ar Brifysgol Rochester yn Efrog Newydd. Yn y ddinas honno y magwyd Rush Rhees ac yno hefyd y cychwynnodd ar ei addysg uwch, a hynny ym mhrifysgol ei dad. Ond a'r tad ar ymweliad â'r Dwyrain Pell aeth y mab i drafferthion. Bu mor hy â herio syniadau ei Athro Athron- iaeth ac, o ganlyniad diarddelwyd ef o'r coleg. Cafwyd adroddiad ar dudalen flaen y New York Times dan y pennawd, 'Radicalism of Rochester President's Son Causes Professor to Bar Youth from Class'. Cyn i'w dad ddychwelyd o'i daith, yr oedd y mab wedi dianc i'r Alban ac ymgofrestru fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caeredin. Yno ar y pryd yr oedd dau Athro Athroniaeth go enwog, sef A. E. Taylor