Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dilyn Rheol mewn Gweithred a Gair I Treuliodd yr Athro Aaron ran helaeth o'i fywyd academaidd yn myfyrio uwchben gweithiau John Locke, tad empeiriaeth Brydeinig, ac enillodd iddo'i hun edmygedd a pharch y byd athronyddol ledled Prydain, a thu hwnt yn y byd Saesneg, am ei glasur o gyfrol esboniadol ar John Locke. O ganlyniad, ac efallai yn anochel braidd, empeirydd oedd Aaron ei hun. Ac empeirydd cymhedrol tebyg i Locke ydoedd mewn gwrthgyferbyniad llwyr i'r empeiriaeth eithafol, sef Positifiaeth Resymegol, a ysgubodd dros rannau o Ewrop a Phrydain, fwy neu lai yn ystod y cyfnod pan oedd Aaron yn Athro yma'n Aberystwyth. Pan oedd Aaron yn y gadair tybiaf mai'r tyndra athronyddol mwyaf oedd hwnnw rhwng yr empeirwyr traddodiadol, megis Aaron ei hun, a'r empeirwyr eithafol newydd. Beth bynnag, gellir dweud gyda pheth sicrwydd mai empeiriaeth oedd ar ganol y llwyfan athronyddol yn ystod y cyfnod hwn. Ond yn raddol, daeth y byd athronyddol Prydeinig o dan ddylanwad gwaith un o gyfoeswyr Aaron, sef Ludwig Wittgenstein gwr y bu ei waith cynnar yn ysbrydoliaeth i'r empeiriaeth newydd eithafol a grybwyllwyd eisoes, ond gwr a fu wrthi, 0 1930au'r ganrif ymlaen, yn creu athroniaeth a fyddai'n gwneud fwy na neb yn ei ddydd, os nad erioed, i herio a cheisio disodli systemau athronyddol traddodiadol o bob math, gan gynnwys empeiriaeth. Ymddangosai gwr mor radical ei syniadau â Wittgenstein fel un peryglus i rywun fel Aaron a oedd yn ofalus a cheidwadol draddodiadol ei syniadau athronyddol. Felly, ni ellid disgwyl llawer o gydymdeimlad o gyfeiriad yr Athro Aaron tuag at safbwynt chwyldroadol y Wittgenstein newydd. Disgybl a chyfaill agos Ludwig Wittgenstein oedd Rush Rhees. A chyfres o ddarlithiau am y gwr arbennig hwn, Rush Rhees, yw'r gynhadledd athronyddol hon. Ond pwy oedd ef, a phaham ein bod, fel athronwyr Cymraeg, wedi neilltuo'r gynhadledd hon i drafod ei waith? Tybiaf fod angen cyflwyno Rush Rhees, oherwydd nid yw ei enw, efallai, yn gyfarwydd i fawr neb ond i'r rhai sy'n ymddiddori mewn athroniaeth bur. Yr oedd gan Rush Rhees ddau gysylltiad