Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rush Rhees ar Simone Weil Y mae nodiadau Rhees ar Simone WeiI, sydd i'w cyhoeddi'n fuan, yn cynrychioli un o'r dadansoddiadau mwyaf diddorol a sylweddol ar ei gwaith yr wyf wedi dod ar eu traws. Fel Peter Winch (sydd â'i astudiaeth ardderchog o Weil yn meddu rhai o'r un nodweddion â'r hyn sydd gan Rhees i'w ddweud), y mae Rhees yn y bôn mewn cydymdeimlad â Weil, a hithau wedi gwneud argraff ddofn arno. Ond ar yr un pryd y mae'n mynegi amheuaeth a yw'n help o gwbl i gategoreiddio'r hyn y mae hi'n ei ysgrifennu fel athroniaeth. Nid mater o oruchafiaeth academig mo hyn, ymgais i gau Weil allan o'r gystadleuaeth, allan o ryw undeb profîesiynol, fel petai. Y mae'n hytrach yn fater mwy taer o ddryswch ynglŷn â rhai metafforau canolog yn Weil sydd fel petaent yn cymryd yn ganiataol ryw ffyrdd o brofi, neu o adeiladu'r byd, metafforau na cheir mohonynt mewn trafodaeth gyffredin. Yn yr hyn sy'n dilyn 'rwyf am edrych yn fyr iawn ar ddryswch Rhees ynglyn â rhai o'r rhain, i weld a oes modd eu darllen o'r newydd, ac a oes wedi'r cwbl fwy o drafodaeth athronyddol i'w chynnal ynglyn â hwy. Y term cyntaf yw 'rheidrwydd'. Y mae Weil yn symud yn sionc iawn rhwng ystyron sylweddol wahanol i'r gair hwn, gair sy'n gweithredu fel elfen sylfaenol yn ei disgrifiad hi o sut yr ydym i ymagweddu tuag at y byd. Y mae geirwiredd iddi hi yn ffordd o blygu i ryw fath o 'raid'; yn ei hysgrifau diweddarach ac mwy echblyg grefyddol, cyfarfyddiad â Duw yw'r hyn sy'n digwydd wrth dderbyn rheidrwydd. Ond beth, mewn gwirionedd, yw ystyr y gair? Ar lefel sylfaenol ymddengys fod iddo a wnelo â rheidrwydd mathemategol; ac y mae Weil yn trin rheidrwydd mathemategol, y rheidrwydd a berthyn i broses o ddod i ryw gasgliad cwbl ffurfiol, fel model o bopeth arall y mae hi'n cynnwys yn y term. 'Prin ei bod hi'n gwahaniaethu', medd Rhees, 'rhwng yr hyn y gallem ei alw'n rheidrwydd mewn unrhyw ddigwyddiad diriaethol y gellid ei egluro trwy ddeddfau mecaneg ar y naill law, ac ar y llaw arall y rheidrwydd i ddod i gasgliad mewn prawf mathemategol (neu unrhyw gasgliad ffurfiol)' (lls., t.53).