Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Morgan John Rhys, Y Cylchgrawn Cynmraeg a'r Cymry Uniaith Yng ngeiriau cofiadwy y diweddar Athro Gwyn A. Williams, Morgan John Rhys (MJRh) 'burns in the mind like a sudden flame, all warmth and brilliance and brevity'. Ar ôl ymchwilio i hanes MJRh am ryw ugain mlynedd, yr wyf yn dal i ddod o hyd i dystiolaeth i gefnogi'r datganiad hwn. Saif pwysigrwydd MJRh nid yn y dylanwad a gafodd ar eraill ond ar ehangder ei ddiddordebau, a oedd yn cynnwys pynciau dadleuol ei ddydd. Wrth drafod MJRh yn y gorffennol yr wyf wedi'i osod yng nghyd- destun Bedyddwyr trawsiwerydd gan roi sylw arbennig i'w weledigaeth filflwyddol, oblegid hyn yn fy marn i yw'r allwedd i ddeall ei radicaliaeth a'i elyniaeth tuag at bob math o orthrwm.2 Yn yr ysgrif hon carwn sôn am ei agwedd tuag at y Cymry uniaith' (ei ymadrodd ef) a rôl y Cylchgrawn Cynmraeg yn ei drafodaeth ohonynt. Gair i ddechrau am y dyn ei hunan.3 Ganed ef ym mhlwyf Llanfabon ar erchwyn Bro Morgannwg ar 8 Rhagfyr 1760, a'i dad yn ffermwr ac yn warden yn eglwys y plwyf. Aelod yn Eglwys y Bedyddwyr, Hengoed, oedd ei fam. Gwasanaethodd fel clerc am gyfnod yn Llundain a Portsmouth cyn dychwelyd i Gymru oblegid gwaeledd ei fam annwyl. Bu farw ei fam. Yn fuan wedyn cafodd dröedigaeth efengylaidd ac ar 6 Awst 1785, fe'i bedyddiwyd trwy drochiad yn eglwys ei fam yn Hengoed.4 Cefnogwyd ef gan yr eglwys yno i ddilyn cwrs o hyfforddiant diwinyddol yng Ngholeg y Bed- yddwyr, Bryste. Rhoes y gorau i'w gwrs diwinyddol pan ddaeth galwad iddo oddi wrth Eglwys Penygarn a gadawodd y Coleg heb ganiatâd. Fe'i hordeiniwyd ym mis Hydref 1787, a bu'n weinidog ym Mhenygarn am bedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n bregethwr teithiol a chyfaddefodd yn ddiweddarach, 'I generally had more testimonies of conversions under my ministry abroad than at home.' Hefyd, yn ogystal â phregethu yn y mannau diarffordd dark places' yn ne Cymru lIe na fu neb cyn hynny yn pregethu, bu ar ddwy daith bregethu i ogledd Cymru yn 1788 ac 1789.