Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rush Rhees ar Grefydd ac Athroniaeth Ysgrifennais ragymadrodd bywgraffiadol yn hytrach na rhagymadrodd athronyddol i gasgliad Rush Rhees, On Religion and Philosophy} Felly, yn y papur hwn, rhagymadrodd athronyddol fydd gennyf. Y mae'r llyfr bron yn bedwar cant o dudalennau o hyd, ac yn fy marn i, dyma un o'r testunau pwysicaf mewn athroniaeth crefydd yn yr ugeinfed ganrif. Dywedodd y diweddar Peter Winch nad oedd dim byd tebyg yn y maes o safbwynt ystwythder athronyddol, gonestrwydd diwylliannol, a gweledigaeth grefyddol. Gobeithio y medraf gyfìawnhau'r farn hon. Trefnais bapurau Rhees yn ôl pynciau yn hytrach nag yn ôl eu dyddiadau, ond trwy roi'r dyddiadau hefyd gall darllenydd ddilyn datblygiadau meddwl Rhees os myn. Ceir yr ysgrifau cynharaf cyn 1940 a'r rhai diweddaraf yn y 1970au. Dywedodd Peter Winch mai'r hyn sy'n bwysig yn Platon yw nid ei system neu ei ddamcaniaeth, ond yr hyn a ddengys i ni am bosibiliadau dialog a thrafodaeth. Y mae'r un peth yn wir am Rhees. Pe pwysleisid rhai agweddau ar bwnc mewn trafodaeth, byddai Rhees am ein hatgoffa am agweddau eraill. Felly, siomedig fydd rhywun sydd am edrych am system yn ei waith. I mi, wrth ei ddarllen, a thrwy fod yn ddisgybl iddo, deuthum i gyfarfod â'r meddwl mwyaf ymchwilgar ag adnabûm erioed. O'r chwech ar hugain o bapurau yn y casgliad, pedwar yn unig a gyhoeddwyd eisoes. Gydag un eithriad, nodiadau ydynt a ysgrifen- nodd Rhees er ei fwyn ei hun, neu i eraill, heb unrhyw fwriad ynghylch eu cyhoeddi. Rhennais hwynt yn bedair rhan a cheisiaf fynegi'r prif themâu ynddynt. I Gelwais y rhan gyntaf, 'Religion and Reality' am mai pwnc Rhees yw natur diddordeb athronyddol yn realiti Duw. Dadleua Rhees fod hwn yn wahanol i ddiddordeb crefyddol, er bod rhai athronwyr, megis Franz Brentano, wedi ceisio eu huniaethu. Beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt? Pan yw Aristoteles yn sôn am 'yr achos cyntaf y mae'n defnyddio 'achos' mewn ystyr arbennig.