Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhees ar Foeseg a Dealltwriaeth Y mae'n fraint gennyf droedio drachefn ffyrdd o feddwl a thrafod syniadau a fu'n gyfryngau dihafal i greu ynof fymateb cynnar i athroniaeth. Y mae f atgofion am ddarlithiau Rhees, yn enwedig yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg, ar y Gorgias a'r Symposium, yn fywiog ac yn eglur. Safai'n syth heb symud o flaen y dosbarth am ryw dri chwarter awr, heb ddefnyddio unrhyw nodiadau, a siaradai'n dawel a braidd yn undonog. Ni fyddai ei arddull wedi boddhau ethos yr holiaduron arwynebol a geir y dyddiau hyn! Gan imi gael fy magu yn nhraddodiad a disgyblaeth y bregeth fanwl hir, ni sylwais fod dim o'i le: yr oedd y fath gefndir yn baratoad amserol i'r sylw a'r crynhoi cyson a oedd yn ofynnol yn y darlithiau cynnar yma. Anodd fyddai anghofio symlrwydd y mynegi ond dyfnder y syniadau, ei allu syfrdanol i weu'r hyn oedd yn amlwg a chreu agweddau newydd a phriodasau cymhleth, neu ei ddefnydd o gymariaethau a chyfateb- iaethau unigryw i drawsnewid problemau athronyddol. 'Nawr, wrth edrych ar ei waith yn erbyn cefndir hanes athroniaeth foesol gyfoes, 'rwy'n gweld unwaith eto pa mor unigryw oedd gwead syniadau Rhees a phaham y maent mor arwyddocaol yn natblygiad athroniaeth foesol. Fel myfyriwr newydd, nid oedd gennyf yr adeg hynny unrhyw ddealltwriaeth o'r ffyrdd traddodiadol o yrru cwestiynau ymlaen. Nid oeddwn felly yn ymwybodol o unrhyw bellter rhwng cyflwyniad Rhees, a'r hyn a draethid ar athroniaeth foesol ymhob Adran Athroniaeth ar hyd a lled y wlad. I mi, pethau hollol unigryw oedd yr egni syniadol, y trawsnewid yn statws y gwahaniaeth rhwng y da a'r drwg, y gyfathrach arbennig rhwng y meddwl treiddgar a'r dychymyg creadigol yn narlithiau Rhees. Yn nes ymlaen wrth gwrs, deuthum i sylweddoli'r gwahaniaeth dramatig sydd rhwng y posibiliadau a ddatgelwyd yn y darlithiau yma, a ffyrdd eraill o ymchwilio ac esbonio athroniaeth foesol. Unwaith y daeth y posibiliadau yma yn rhan o'm ffordd gynhenid o edrych ar, a deall, cwestiynau athronyddol, ni ellid eu diystyru; ni ellid llai na chyfathrachu â hwy mewn cysylltiad ag awgrymiadau mwy traddodiadol athroniaeth foesol megis, awgrymiadau am y gwahaniaeth rhwng ffaith a gwerth, neu am ffyrdd o gyfiawnhau ein