Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad John FitzGerald, Moeseg Nicomachaidd Aristoteles: Cyfìeithiad gyda Rhagymadrodd, Nodiadau a Mynegai (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1998), tt.xxxiv, 316, £ 35.00. Dyma gyfrol y gall athronydd o Gymro neu Gymraes, neu unrhyw Gymro neu Gymraes ddiwylliedig, ei dangos â balchder i unrhyw athronydd yn y byd fel enghraifft nodedig o gyfieithu ac esbonio modern. Y mae gwaith y Tad FitzGerald yn ystod y blynyddoedd y bu'n dysgu athroniaeth moesau trwy'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, wedi cynhyrchu ffrwyth aeddfed; ac yr ydym ni Gymry'n ffodus fod ein diwylliant Cymraeg, ar ddiwedd y mileniwm, wedi ei freinio â champwaith sy'n ein cysylltu'n uniongyrchol ag un o brif ffynonellau'n traddodiad. Lluniwyd y gyfrol gyda golwg ar anghenion y sawl sy'n darllen Aristoteles am y tro cyntaf. Y prif gymorth, wrth gwrs, yw'r cyfieithiad ei hun. Os am wneud fersiwn o Moeseg Aristoteles y gall newyddian ei ddarllen wrtho'i hunan, rhaid gorchfygu sawl anhawster. Fel y dywed FitzGerald, nid llyfr gorffenedig yw'r Moeseg Nicomachaidd (MN) ond 'casgliad o ddeunydd darlithiau ac o drafodaethau mwy neu lai anorffenedig' (t. xi). At hynny, y mae arddull Aristoteles, ar y cyfan, yn ddiaddurn, yn gryno ac yn eliptig. Y mae'n rhoi ystyron technegol pwysig i nifer o dermau pob dydd megis 'diben' (telos), 'dibennol' (teleios), 'gweithredu' (prattein), 'gwneud' (poiein), 'bod wrthi/ar waith' (en energeia(i)), 'ar ein llaw ni' (eph' hêmin). Nid peth syml ychwaith yw cyfieithu i'r Gymraeg ei hoff adferfau, megis haplôs ('heb ragor', 'fel y cyfryw') a kata sumbebêkos ('gyda llaw'). Y mae ganddo doreth o dermau i ddynodi'r gwahanol gyflyrau a phrosesau sydd ynghlwm wrth weithredu, a'r holl gyflyrau a thueddfrydau y canmolir neu y collfernir pobl o'u herwydd. Yn wyneb hyn i gyd, y dewis sydd gan y cyfieithydd yw un ai cadw'r arddull gryno orau y gall, gan fod y Roeg o'i natur yn fwy cryno na'r Gymraeg a dibynnu ar nodiadau i esbonio'r ystyron, neu helaethu a dehongli rywfaint ar y gwreiddiol yn ei gyfieithiad. Ar y cyfan, yr ail lwybr a ddewisodd FitzGerald, sy'n fantais fawr i'r sawl sydd am ddarllen y gwaith yn weddol ddi-dor, fel y bydd y