Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wnaeth, os darfod hefyd. Ymsefydlodd Harri IV yn gadarn ar yr orsedd, ac edrychai'r Cymry ar ei fab, Harri V, 'Harri o Fynwy', fel yr etifedd teilwng, cyfreithlon; felly hefyd fab hwnnw, Harri VI, er ei holl wendidau. Ond bren- hinoedd oeddynt hwy, ac i'r Cymry yr oedd brenin yn gysegredig. Nid mor hawdd maddau i arglwyddi. Cwynid fod dilynwyr Owain yn bwrw eu Hid ar y rhai a'i gwrthwynebodd; mynd ar gynnydd yr oedd ysgarmesoedd er na thorrodd yn rhyfel o ddifrif, nad ymladdwyd brwydr hyd 1455. Ni wyddom sawl cynnen oedd yn mudlosgi ymhlith hen deuluoedd y canolbarth. Yn y cyfnod hwn y digwyddodd helynt Syr Gruffudd Fychan o deulu Gwennwys, pan fu raid iddo ef a'i frawd, mab yr un iddynt ill dau, a thri ar ddeg o ddilynwyr fynd ar herw i'r Cefndigoll, 1444. Dair blynedd yn ddiwedd- arach rhoes Harri Grey saffcwndid i Syr Gruffudd ddod i'r Castell Coch i drafod gydag ef, ac yno, ar lawnt y castell, fe'i dienyddiwyd. Mae'r stori honno wedi ei hadrodd yn ddiweddar yn y cylchgrawn hwn (LIII, t.89 et. seq.) digon yma fydd dyfynnu geiriau Dafydd Llwyd o Fathafarn ar yr achlysur: Pand oedd frwnt y saffcwndid (Pan las y pen hwn o lid) A dorres iarll dau-eiriog, Harri Grey?-Caffo hir grog! Yn 61 y map 'Cymru a Rhyfel y Rhosynnau', map 53 yn An Historical Atlas qf Wales gan yr Athro William Rees, gwelir fod Powys bron yn gyfangwbl yn pleidio lore. Gwir fod gan deulu Mortimer (lore) diroedd yng Ngheri a Chedewain, ac mai dilynwyr lore oedd teulu'r Castell Coch, ond ni ellir derbyn hyn am yr hen deuluoedd brodorol. Mewn cyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, 1455-85, nid problem unplyg Iorc v Lancastr ydoedd i'r Cymry; yr oedd cael Cymro i wisgo coron Prydain unwaith eto yn bwysicach na dim. Dichon i deyrngarwch wyro, bu llanw a thrai, ond y mae un peth yn sicr o blith y teuluoedd a fu'n canlyn Owain Glyn Dwr cafwyd cefnogwyr selog i Harri Tudur. Felly yma ym Mhowys. I'r sawl sy'n adnabod gwehelyth y mae'r rheswm pam y dewisodd Harri ei lwybr arbennig drwy'r canolbarth yn olau eglur. Galwodd ym Mathafarn gyda Dafydd Llwyd, a chael saffcwndid drwy Ddugoed Mawddwy, heibio i'r 'ceirw' a lechai dan y Drum Ddu uwch Bwlch y Fedwen. Oddi yno i Ddolarddun, Castell Caereinion, at Faredudd Wyn, un o deulu Deuddwr, a dyna ei dywys yn ddiogel i'r Cefndigoll, yng nghanol tiriogaeth Gwennwys a Deuddwr lie nad oedd yn ddiogel i wyr y castell ymyrryd. Yno yr ymunodd ei fyddin ef a byddin Rhys ap Tomas, a chan fod yr un teuluoedd yn arglwyddiaeth Cawres, a chyfeillion yn Llanffynhonwen a Dyffrynnoedd Rea a Meole, yr oedd y ffordd yn glir i Amwythig. Pe bai Powys yn unfryd o blaid lore, fel y dengys map 53, ni fyddai gobaith i Harri Tudur