Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

< PETHAU NAS CYHOEDDWYD' I. UN o LAWYSGRIFAU CYMRAEG Y DIWYGIAD CATHOLIG. Daethpwyd o hyd i'r llawysgrif a argreffir ar ddiwedd y nodyn hwn mewn casgliad o weithredoedd a phapurau a ddodwyd i'w cadw yn y Llyfrgell gan Mr. E. Francis Davies, Brondyffryn, Dinbych, yn 1938s. Dernyn ydyw o gyfieithiad Cymraeg o A compen/dious treatise in metre declaring the first origi/nall of Sacrifice, and of the buylding of Aultares and Churches, and of the f firste receauinge of the Christen fayth here in Englande by G[eorge] M[arshall]. Nid oes gopi arall o'r cyfieithiad hwn ar glawr, ac nid yw'n debyg y gwyddai neb ddim byd amdano o'r blaen. Cyhoeddwyd A compendious treatise, yn 61 y wynebddalen, gan I[ohn] C[awood], argraffydd swyddogol y Frenhines, yn 1554, yn llyfr bychan pedwarplyg, ac ailgyhoeddwyd ef gan W. Carew Hazlitt yn Huth's Fugitive Tracts, 1875, cyfres I, rhif xiv. Llyfr prin dros ben yw'r argraffiad gwreiddiol. Ni wyddai Hazlitt (Handbook to the Popular, Poetical, and Dramatic Literature of Great Britain, tud. 378) ond am ddau gopi, y naill yn Llyfrgell Plas Lambeth a'r llall ym medd- iant y Parchedig Thomas Corser, awdur Collectanea Anglo-Poetic a. Dau gopi hefyd oedd yn hysbys i'r sawl a sgrifennodd gofiant Marshall i'r Dictionary of National Biography (cyf. xxxvi, tud. 237), y naill o hyd ym Mhlas Lambeth a'r llall erbyn hyn yng nghasgliad Henry Huth, a dywedir yn Catalogue of the Famous Library of Henry Huth, rhan V, tud. 1352, mai o Lyfrgell Corser y cafodd Huth ei gopi ef. Gwerth- wyd y copi hwn ar ocsiwn lyfrau Huth yng Ngorffennaf, 1916, i Bernard Quaritch (Book Auction Records, cyf. 13, tud. 491, a Book-Prices Current, 1916, tud. 458). Nid yw Short-Title Catalogue of English Books, 1501- 1640, yn cyfeirio o gwbl at gopi Plas Lambeth, ond y mae'n son am ddau arall serch hynny, y naill yn Llyfrgell Coleg Syon yn Llundain a'r llall yn Llyfrgell Henry E. Huntington yn San Marino, Califfornia. Copi Huth, yn 61 pob tebyg, sydd yn awr yng Nghaliffornia, ond ni wyddys beth yw hanes y llall sydd yng Ngholeg Syon,-yn wir, ni wyr awdurdodau'r Llyfrgell yno eu hunain o ba le na pha bryd y caw- sant ef. Dim ond un ddalen fechan o'r cyfieithiad Cymraeg sydd ar gael, ond yn ffodus iawn y ddalen gyntaf ydyw, ac y mae'r teitl yn gyflawn 1 Rhif 209.