Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

arni a'r rhagymadrodd hefyd ac eithrio rhyw un cwpled. Ni wyddys yn y byd pwy oedd y cyfieithydd, er ei bod hi'n weddol amlwg oddi wrth ei enw a hefyd nodwedd ei waith mai clerigwr a llenor o Gymro ydoedd a fu dan gwmwl adeg y Diwygiad Protestannaidd. Y mae'n ddiddorol iawn sylwi iddo gydio yn ei gyfieithiad cyn marw'r Frenhines Mari, hynny yw, o fewn pedair blynedd yn y man pellaf ar 61 cyhoeddi'r gwreiddiol, ac y mae'n rhaid felly nad oedd gwaith George Marshall yn hollol mor anhysbys yn ei ddydd ei hun ag y dywed golygydd Huth's Fugitive Tracts. Y mae'n amhosibl gwybod ar hyn o bryd a orffennwyd y cyfieithiad ai peidio, ond y mae'n sicr nas cyhoeddwyd erioed. Bwriad George Marshall ydoedd olrhain twf Cristionogaeth a thrwy hynny ar y naill law ladd ar y Diwygiad Protestannaidd ac yn arbennig ddadlennu gau athrawiaethau Wycliff a Luther, ac ar y Haw arall foli'r Frenhines Mari'n frwd iawn am swcro'r hen ffydd Gatholig. Y mae cnewyllyn ei ddadl yn y darn hwn:- Rhoddi hwb i'r Diwygiad Catholig, yn ddiamau, ydoedd amcan y cyfieithydd Cymraeg, yntau, ac am hynny y mae'r llawysgrif hon, er mai tamaid yn unig ydyw, yn ychwanegiad diddorol iawn at len- yddiaeth y mudiad hwnnw yng Nghymru. The Churche, the aulter & Gods sacred bodye They [y Protestaniaid] robbed & spoiled and their faith did denie Lyke desperate wretches, thus played they their parte All was forlorne, tyll good Queen Mary Restored them agayne to gods honor & glorye.' I gloi, wele gopi o'r llawysgrif yn ei chrynswth :­- [i] Byr draethawd ar draethodyl lie dagosir pie dechreawyd gynta aberthu ac offrymau ag am alloraü ag eglwysey ac val y dechreüawdd fydd grist gynta yn lloyger y nysck [sic] yr Einglis ner sayson Wedy y wrieythur yn saesneg drwy Gorge marshal yn amser Mari vrenhines er clod iddi hi ac a droed yn yr vn amser drwy Sr. A. ap. H. er cariad ir vn frenhines ac er goleuo'r peth yr kymro na wyr saesneg Nessewch at dduw ac efo ymnessa attoch Iacob. 4.