Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2. CYFLWYNIAD ROWLAND VAUGHAN, CAERGAI, I'W GYFIEITHIAD o Eikon Basilike. Ymysg y casgliad pwysig o lawysgrifau a anfonwyd gan yr Arglwydd Harlech i'w cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol y mae un o ddiddordeb arbennig i astudwyr hanes a llenyddiaeth yr ail ganrif ar bymtheg. Cyfieithiad Cymraeg ydyw o'r Eikon Basilike neu The King's Book, ynghyd a llythyr cyflwynol i'r Cyrnol Syr John Owen o Glenennau (1600-1666; D.N.B. xlii, 422) gan y cyfieithydd, Rowland Vaughan o Gaergai (1590-1667 D.N.B. lviii, 178). Y mae Rowland Vaughan yn adnabyddus1 fel bardd, cyfieithydd gweithiau o natur grefyddol, a brenhinwr selog yn adeg y Rhyfel Cartrefol. I Gweler Yr Tmarfer 0 Dduwioldeb, gan Lewis Bayly Ad-argraffiad. Gwasg Prifysgol Cymru, 1930. Rhagymadrodd, tud, v-xvi, Y rhac ymadrodd at y darllenyddion Y darllewyr fawr a bychain er nad wyf o ddysc yn gowrain [2] [on]d yn llawm [sic] o anwybodaeth mae fy wllys da i yn helaeth pardynwch fi yn hyn o gyfle a nodwch fy storiae ac er eu bod ych twytsio na ddigiwch er i gwerando ond a mendiwch ych drwg feiau drwy gyngor hyn o siamplau ny ddeleu hyny haeddu cas a gymhello ddin i ras arferwch [f]i im amendio ac mi ddiolchafe ywch am dano cedwch fi yn ddisarhaad ?eb dyna fy nymyniad na edrychwch ddim am hoffedd rhif na mesur a chynghanedd ond ystyriwch drwy hir blesser ar ddaioni hin o vatter ac er nad wyfe ethryliaithys nac ychaith yn gylfeddodys na ddistyrwch ddim or matter ond pardynwch chwi fy hyder. Spiritus ubi uult spirat B. G. OWENS.