Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

correspondence of his grandfather, the Right Hon. Charles W. Williams Wynn, including five hundred and forty letters by Robert Southey, the poet (N.L.W. MSS. 4811-4818). Two years later Mr. Williams Wynn deposited his collection of Speaker Williams papers, and, in 1935, he presented further groups of the correspondence of Charles Williams Wynn and his sisters, Fanny and Charlotte (N.L.W. MSS. 10,801-10,806). In 1936, Mr. Williams Wynn allowed the National Library to make a typescript copy of his manu- script' Memoir of the Right Hon. Charles Watkin Williams Wynn' (N.L.W. MS. 10,798). Finally, Major B. E. Parker Leighton, in 1932, deposited papers and notebooks relat- ing to the estate of Fanny Williams Wynn. H. N. Jerman. E. D. JONES. JOHN BLACKWELL, Alun (1797-1840). Gan mlynedd i eleni, ar y pedwerydd-ar-ddeg o Fai, y bu farw y Parchedig John Blackwell (1790-1840; D.N.B. v, 146). Fel bardd telynegol y cofir am dano yn bennaf, ac y mae ei enw barddol Alun yn llawer mwy adnabyddus na'i enw bedydd. Yn yr Wyddgrug y ganwyd ef, ac yno y dechreuodd ar ei yrfa fel crydd gan ymhyfrydu mewn barddoniaeth ar yr un pryd. Yn 1823, daeth i amlygrwydd drwy gyfres o lwyddiannau eisteddfodol. Cyfrannodd rhyw hanner cant o noddwyr tua dau cant a hanner o bunnoedd i dalu am ei addysg a'i godi yn offeiriad. Bu'n dysgu Lladin a Groeg gyda'r Parchedig Thomas Richards yn Aberyw, ac ym mis Gorffennaf, 1824, ymaelododd yng Ngholeg Iesu yn Rhydychen. Cymerodd ei radd ymhen pedair blynedd, ac yn 1827 gwnaethpwyd ef yn gurad Treffynnon. Yn 1833, cafodd reithoriaeth Maenordeifi yn Sir Benfro, ac yno y bu farw, ac y claddwyd ef. Y mae peth o'i waith a manylion am dano yn y llawysgrifau canlynol yn y Llyfrgell Genedlaethol N.L.W. MS. Nodiadau bywgraffyddol a llythyrau ynglyn ag 'Alun' gan Dewi o 358 Ddyfed' (D. James), Gutyn Padarn' (G. Edwards), ac eraill. N.L.W. MS. Llythyrau at y Parchedig Walter Davies, Gwallter Mechain,' 1084 1826-30. N.L.W. MS. Llythyrau at y Parchedig John Jenkins, Ifor Ceri,' a Mrs. Jenkins, 1888 1825-38. N.L.W. MS. Llythyr at C. B. Smith, 1826, a chopi llawysgrif o Y Messia. Cyfieithiad 5485 o Saesonaeg Pope.' N.L.W. MSS. Pregethau Saesneg yn llaw Alun.' 11,542-5 cwrtmawr MS. Llythyr at y Parchedig Thomas Richards, Llangynyw, 1827. 74 CWRTMAWR MS. Copiau o lythyrau at y Parchedig Thomas Richards ac eraill, 1824-35. 468 Y mae yn y Llyfrgell hefyd ddarlun mewn olew ohono. E. D. JONES.