Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

of most of his works in the hands of his brother Thomas Vaughan, but adduces good evi- dence for believing that the' Friend who edited Olor Iscanus for publication by Humphrey Moseley in 1651 was Thomas Powell, of Cantre, Brecknockshire, whose Stoa Triumph ans was registered by Moseley on the same day as Olor Iscanus. Of the works discussed in Mr. Parker's article the Sir John Williams Collection has the following: Silex Scintillans. London: Printed by T. W. for H. Blunden, 1650. [2nd, augmented edition.] London Printed for H. Cripps and Lodowick Lloyd, 1655. Olor Iscanus. Published by a Friend. London: Printed by T. W. for Humphrey Moseley, 1651. [Reissue, with new title-page.] London: Printed and are to be sold by Peter Parker, 1679. F lores Solitudinis. London Printed for Humphrey Moseley, 1654. 2 copies. J. J. JONES. RHAI LLAWYSGRIFAU BARDDONIAETH. Ymysg y Ilawysgrifau Cymraeg a gasglodd Syr John Williams y mae nifer o rai pwysig o'r ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Barddoniaeth rydd ydyw eu cynnwys gan mwyaf, a cheir yn hwnnw adlewyrchiad teg o ddiwylliant Cymru yn y cyfwng rhwng oes y cywyddau a'r deffroad llenyddol a ddaeth gyda Lewis Morris, Goronwy Owen, a'u cymheiriaid. Y llawysgrif fwyaf trwchus a'r bwysicaf ohonynt hefyd, efallai, ydyw N.L.W. 9, a gopiwyd gan Ddafydd Jones, Trefriw, yn y blynyddoedd 1736-56. Cynnwys rai can- noedd o gerddi rhydd gan oddeutu 90 o feirdd, rhai ohonynt, megis Edward Morris, Huw Morys, William Phylip, ac Owen Gruffydd, yn adnabyddus, ond y mwyafrif yn fwy di-nod. Y mae yma gerddi gan nifer o wragedd, megis Angharad James, Elizabeth Hughes (neu 'Bess Powys'), Elizabeth ferch Williams, Margared Prys o Gae'r Milwyr (gwraig Thomas Prys o Bias Iolyn a merch Rowland Fychan o Gaergai), a Catrin Gruffydd. Huw Morys biau'r cyfraniad helaethaf i'r casgliad gyda 83 o gerddi,-22 ohonynt, y mae'n sicr, yn rhai na wyddai Walter Davies (' Gwallter Mechain ') amdanynt pan gyhoeddodd weithiau Huw Morys (' Eos Ceiriog') yn 1823. Rhydd hyn bwysigrwydd newydd i lawysgrif Dafydd Jones. Er nad hon oedd yr unig lawysgrif o ganu rhydd a gopiwyd ganddo, y mae'n ddiogel dywedyd mai N.L.W. 9 ydoedd sail Blodeugerdd Cymru, y casgliad enfawr o gerddi rhydd a gyhoeddodd Dafydd Jones yn 1759. Diau, hefyd, mai dyma'r llaw- ysgrif y sonia Richard Williams (' Celynog ') amdani mewn llythyr yn r Geninen (Cyf. xi, tud. 303). Huw Morys oedd bardd mwyaf ffrwythlon yr ail ganrif ar bymtheg. Ni cheir odid lawysgrif barddoniaeth o'r ddeunawfed ganrif heb fod ynddi ryw gymaint o'i waith. Hynny a geir yn bennaf yn llawysgrif N.L.W. 311 a gopiwyd gan Dr. Dafydd Samwell (gweler Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1926-27, tud. 70-133). Dywedir mewn nodyn ar y wyneb-ddalen mai o Lyfr a gafwyd yn ddiweddar o Bont y (Meibion]'-cartref Huw Morys-y copiwyd y cerddi hyn. Y mae llawysgrif N.L.W. 311 yn gopi teg o lawysgrif Cwrt Mawr 224, a cheir digon o brofion mewnol i ddangos mai o lawysgrif Cwrt Mawr y copiodd Samwell. Y mae ei nodyn ef^am Lyfr Pont y Meibion yn dystiolaeth bwysig i brofi dilysrwydd llawysgrif Cwrt Mawr 224 fel un wreiddiol Huw Morys-yr unig un sylweddol, hyd y gwyddys, a gadwyd hyd heddiw.1 Gwaith llenyddol gan Thomas Edwards (' Twm o'r Nant') a geir fwyaf yn llaw- ysgrifau N.L.W. 346-50, 352-4, ac yn ei law ef y mae'r rhan fwyaf ohonynt. Llaw- ysgrif gyfansawdd ydyw N.L.W. 346, a bu o leiaf bedwar yn ei chopio. Cynnwys lawer I Gweler tud. 232.