Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Copiodd ysgrifennydd William Maurice o Peniarth 224 y ddau brif destun a'r ychwanegiadau, gan ddynwared ysgrifen a dull John Jones. Yna golygwyd y cyfan gan William Maurice ei hun. I ddechrau ceir yr ychwanegiadau (Wynnstay 37, 1-5) dodwyd dalennau gwyn rhwng dalennau'r copi, a chodi iddynt rai amrywiadau o law- ysgrifau ereill, ond croesodd William Maurice y rhan fwyaf o'r copi a'r amrywiadau allan, gyda'r nodyn (ir) Omnes has var. lect. reduxi ad propria Loc. compando & transcri- bendo y Prolog sef y Rhaglith sydd ar ddechrau'r Llyfr Prawf yn Cotton Cali- gula A. III (A.L. i. 214), yw'rprifddarn a adawyd. Yna ar ff. 6r, mae'r prif destun cyntaf yn dechrau, dan bennawd yn llaw William Maurice, Cyfraith Howel Dda. yn dechreu. Liber Alpha. incipt [sic] A Jove principiu. Kyfraith Howel Dda ab Cadell." Ceir ar ymyl y dalennau eiriau arweiniol o'r testun a rhwng y llinellau ac ar y rhyngddalennau amrywiadau o lawysgrifau ereill, y cyfeirir atynt wrth yr enwau a roddodd William Maurice arnynt. Y mae i adrannau'r testun yn Peniarth 224 benawdau mewn ysgrifen frasach. Copiwyd y rheini yn Wynnstay j7; ond croesodd William Maurice drwy'r cyntaf ar ff. 6v, a nodi ar vmyl y ddalen, Addit. p Jo. Jones, in Orig. hie & alibi desunt Summaria." Yr oedd William Maurice felly'n golygu ei gopi a Ilawysgrif Roger Morris o'i flaen, a honno heb gynnwys y penawdau. Ni ddilewyd y penawdau ereill, a daeth yr adrannau'n benod- au, wedi'u rhifo o I i 117. Rhifwyd y dalennau hefyd ond aed ar gyfeiliorn trwy neidio'n 61 o 39 i 30, ac yna gywiro'r ail 30-4 yn 40-4, nes bod dwy ddalen bob un yn dwyn y rhifnodau 35-44. Mae'r testun Alpha yn gorffen ar waelod ff. 141V, gyda'r geiriau Ag e velly tervyna llyfvr kyghawsedd." Copiodd y gwas nodyn John Jones, Ag e velly tervyna llyfyr kyg- hawsed ar Dduw gwener y kroglwyth y //29// dydd o Vawrth en oedran Crist //1605/. Deo Gras." ar waelod y tudalen a thop ei dudalen nesaf, ac aeth ymlaen a'r ail destun o Peniarth 224. Ond gwahanodd William Maurice y ddau destun ac yn dilyn 14,1v ceir testun a gopiwyd — efallai gan was arall-o lawysgrif Peniarth 40 Kalan yw enw William Maurice ar y IlawysgTif a'r testun a godwyd ohoni. Lleinw'r testun drigain dalen-y rhai cyntaf wedi'u rhifo o 142 i 1 57, a'r lleill heb eu rhifo mae dalennau rhwng dalennau'r testun, eithr heb ond ychydig iawn o ddarlleniadau. Dechrau'r ail destun o Peniarth 224 ar ddalen sydd hefyd yn dwyn y rhifnod 142. Rhoddwyd yr enw Llyfr Iorwerth ab Madog ar y testun i ddechrau a'i rannu'n 49 o benodau, yn ymestyn o 142r i 209 ac ymlaen dros 23 o ddalennau heb eu rhifo, gan ddiweddu ar ganol brawddeg. Ar gefn y ddalen honno ni cheir ond pennawd tudalen ar y tudalen nesaf dri dyfyniad o lawysgrif arall; ac yna 49 o ddalennau gweigion cyn diwedd y gyfrol. John Jones, Sef a gefais ar ddolen or llyfyr vchot a esgrifennassei Rosie[r] Morys, henwev llyfrev kyfreithiev yr hen Vrvtanieid a messvr Terfynev a gwerth kroessev." Dig- wydd y darnau sy'n dilyn mewn amryw lawysgrifau, yn eu plith Peniarth 163 ac ar ddalen rydd yn Peniarth 163 ceir nodyn gan Dr. Evans yn cyfeirio at y darnau a gofyn ? Whether Pen. 224 pp. 770-3 are copied from this MS. The above note is in the hand of Gr. Hiraethoc, not of Roger Morris' but see MS 169 p. 277 Y mae Peniarth 163 yn cynnwys y testun o'r Cyfreithiau a geir yn Peniarth 34 ond yn 61 Dr. Evans, sgrifenn- wyd y testun yn gynharach na'r darnau o'r llawysgrif sydd yn llaw Gruffudd Hiraethog, a chan hynny'n rhy gynnar i fod yn waith Roger Morris. Mae Peniarth 169 yn llaw Roger Morris, ond ni chynnwys ond yr enwau llyfrau o'r darn sydd yn Peniarth 224, tud. 770-3, ac ni chynnwys destun o'r Cyfreithiau. Rhaid tybio felly fod John Jones wedi copio'i destunau o lawysgrif sy'n awr ar goll, ond a'gynhwysai'r holl ddamau ar Peniarth 224, tud. 770-3, heblaw'r ddau destun yn llaw Roger Morris,