Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

swydd orwael o ymddiddan a'm bath i, &c ac megis na ddisgwyliaswn erioed weled eich wyneb cyn hyn, ni ddisgwyliwn yn ol hyn weled na chlywed gair byth oddi- wrthych. Ond i'r gwrthwyneb mor annisgwyledig a'r tro cyntaf darfu ichwi fy anerch yn dra charedig eilwaith drwy Lythyr yn dangos fal o'r blaen eich mawr ewyllys da a'ch parch tuag attaf, ac yn fy anog i brydu ar Brif ymrysonbwngc y Cymry yn Eisteddfod Powys. yr oedd hyn yn gweithio ail serch a diolwch ynof tuag attoch, a'r Testyn Dinystr Caersalem fal cyntafanedig holl Fodoliaeth i'm teimladau a'm dewisiad, pe buasai ynof fwriad neu duedd i brydyddu dim byth ond fy nghyfaill parchedig i'r gwrthwyneb yn hollol y mae'n bod gyda mi, ac er mai fy aflwyddiant yn fy ymrysonau blaenorol mae'n debygol a fu yn foddion i ddiawchu a diawyddu fy meddwl oddiwrth ym- roddiadau egniol i brydyddu, am llenwi unwaith a chryn ddigder ac anfoddhawch, y mae hyny yn awr wedi llwyr wywo ac ymddileu, fel nad yw yn fagl yn y byd, fal, nas gallwn brydyddu, ond yr achos ydyw fy mod wedi diarrchwaethu fy meddwl a'm myfyrdod ac wedi groesawu amgyffredion eraill perthynol i'm dyledswydd tuag attaf fy hun fal bod rhesymol yn sefyllfa adfeiledig dyn, a phan ddywedwyf ichwi fod myfyrio a phrydyddu yn tueddu i gryn raddau i niwedio fy iechyd, chwi a'm hesgusodwch am byth am roi fy ngorch- wyliaeth i fynu. Dyna yw y rheswm penaf o luaws sydd genyf i'm hattegu fy hun i dreulio fy oes heibio i lafur yr Awen, gan wybod nad yw y clod mawr a'r elw bach a ellid yn ddam- weiniol eu henill, ond gwagedd diflas yn gyfnewid am y radd leiaf o iechyd a'i fanteision priodol &c. Yn ol derbyn eich Llythyr bum ryw yspaid o amser, yn meddwl anfon llinell o ddiolwch ichwi am eich sylw o honof-wedi hyny bum yn cynwys y bwriad o ddyfod i Eisteddfod y Trallwm (nid fal Bardd ond) fal dynsawd cyffredin er mwyn ymddifyru ac ymddiosg ychydig o helbulon bywyd drwy rodio y parth hwnw o Gymru, ac os medrwn wneyd yn gyfleus i ym- weled a chwi yn eich Ty ar fy ymdaith, neu o leiaf ysgwyd llaw a chwi yn yr Eisteddfod, ond lluddiwyd y cwbl gan i'r cynhauaf ymdaflu yn union ar ganol y ffordd, ac felly gartref y gorfuwyd ymfoddloni, a'r cwbl o ddywenydd yw ddarllen Hanes yr Eisteddfod rwysgfawr hono. Ac er fod hyfrydwch gwresog i'm teimladau bob amser wrth ddarllen hanesion o'r duedd yma, rhaid i'm gyfaddef a thystio nad ydynt ond haner boddhaol imi. Hynod o ddymunol yw eiddigedd a haelioni pendefigion y Dywysogaeth i enyn a chynyddu dawn a dysg y genedl, a thebygid eu bod yn dangos parch drudfawr i Brif Gangen Llenyddiaeth Gymreig sef Awenyddiaeth ac yn gosod y pwys mwyaf a'r bri penaf i'r sefydliad drwy ei alw yn Eisteddfod Beirdd, ac yn enw Eisteddfod Beirdd treulio canoedd os nad llawer o filoedd o bunau yn flynyddol, ond atolwg pa fudd neu galondid a fwynha'r Beirdd o ddiwrth yr holl rodresdwrf, yn fwy na chael cyfleu i borthi eu hanian ymrysongar ar draul eu gwragedd a'u plant eu hunain, y rhai ydynt yn y cyfamser yn gorfod dioddef prinder a phenbrudder, tra fyddo holl foddion eu cynaliaeth a'u dedwyddwch tymorol yn ofera eu diwrnodau yn gwneyd i fynu Eisteddfod Beirdd, fel pe na byddent ond yn lluman i alw pendefigion a Bonedd Cymry i dywallt eu pyrsau i'r gwestdai a gadael i'r Beirdd benthyg i ddychwelyd yn hollol mor ddielw erbyn bod gartref a phe byddent Fytheiaid o hela ysgyfarnog. Os dynodir Barddoniaeth fal gwrthrych penaf yr Eisteddfod yn deilwng o'r fath areithiau a draddodir i glywedigaeth miloedd o gyntefigion nid yn yn [sic] unig y Dywysogaeth ond y Deyrnas hefyd, atolwg pa fodd na wobryid y campau yn gyfatebol, a'i gini, pum gini, Deg neu ugain, a roddir gan wyr mawrion i wobrwyo ymdrech meirch neu Gwn y rhai nid ynt ond bodau diystyrllyd direswm mewn gyrfaoedd gwageddol tybaid nad yw cyneddfau angylaidd enaid dyn yn teilyngu rhyw fwy o sulw na na [sic] dim galluoedd bwystfilaidd neu anifeilaidd, mae heb law areithiau pendefigaidd ac Esgobawl yn profi teilyndod Beirdd, orlues [sic] a rhwysfawredd Eisteddfodau tu hwnt i bob enwau eraill o gyfarfodydd a fedrodd dyfais ac egni eu ffurfio yn taeru yn yn [sic] ddiysgog y dylai y Beirdd nid yn unig gael eu coegbarchu fal Ffwl Ffair ond hefyd eu buddioli yn benaf yn y cyfarod [sic] a ffurfir mor