Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bu'n hen arfer gysylltu Iaco ab Dewi a'r Uyfr uchod. Mynnai Gwallter Mechain' er enghraifft, mai ef oedd y golygydd, a cheir awgrym tebyg gan eraill o dro i dro. Ond yn ei lythyr ar y darllenydd nid yw Dafydd Lewis, Curad Llanllawddog, yn enwi neb ond ef ei hun Os derbyni hyn o'm poen a'm Uafur, f allai (os Duw ai myn) mewn amser, y cei ychwaneg.' Y mae'n sicr y gwyddai Iaco ab Dewi am y casgliad. Un o'i lawysgrifau cynharaf oedd y copi ohono sydd bellach yn rhan o N.L.W. 6209. Gwir fod gwahaniaethau rhwng y copi hwnnw a'r fersiwn a argraffwyd. Lladin yn unig yw llawer o benawdau'r Uawysgrif, a rhoddir is-deitlau i lawer o'r adrannau-rhennir yr adran Pechod deirgwaith Peccata, peecata propria non videmus, peccatores non intrant in Regnum Dei. Weithiau hefyd nid yw'r penawdau'n cyfateb yn y naill a'r llall e.e. F.P.B. t. 4, Cariad, Ofn, Glewyd llsgr. Cariad, Ofn, Grym. F.P.B. t. 19, Diogi Usgr. Anghelfydd MusgreU. Eto cofier bod gan Iaco ab Dewi gopi arall-B.M. Addl. 14890, t. 2I0 — sy'n cyfateb i'r gwaith argraffedig, a chopi hefyd-yn yr un llawysgrif—­o 'Lyfr Barddoniaeth William Midleton' a argraffwyd gyda'r Flores. Ond y mae sicrach tystiolaeth hefyd o blaid Iaco ab Dewi. 0 gymharu N.L.W. 6209 ag argraffiad 1710 gwelwn i'r golygydd ddefnyddio dyfynodau i ddangos yr ychwanegiadau yn yr olaf-ar dud. 16, 29, 34, 40, 42, 43-5,45-6. Ar dud. 16 y mae ychwanegiad hir2 o gwpledi gan Ieuan Brydydd Hir, a Sion Cent. Fe'u cafwyd gan mwyaf o ddau gywydd sydd nesaf at ei gilydd yn un o lawysgrifau Iaco ab Dewi — Caerdydd 1. 52, t. 44-8. Ar dud. 43 ychwanegwyd Cywydd i Argyhoeddi'r Byd o Amryw Feieu gan Ieuan Tew o Gedweli. Y mae'r cywydd hwn drachefn yn yr un Uawysgrif, tud. 49; y mae hefyd yn Llanstephan 133, rhif 616. Copiwyd Caerdydd 1. 52 ar 611710, fe ymddengys-Awst 17, 1713, yw'r dyddiad ar dud. 8-ond nid dibwys yw'r dystiolaeth fod gan Iaco ab Dewi gopiau o'r cywyddau. Yn bwysicach na hyn oil gwyddom y byddai Iaco ab Dewi yn arfer ychwanegu dyfyniadau newyddion at gasgliad y Flores Poetarum. Y mae yn y LlyfrgeU Genedlaethol gopi o argraffiad 1710 a fu yn ei feddiant. Rhan yw o gyfrol y ceir ynddi nifer o weithiau eraill o'r un cyfnod—Gemmeu Doethineb Rhys Prydderch (1714), a Caniadau Nefol. Dafydd Lewys (1714). Bu unwaith yn eiddo Ben Simon, ac, fel y llawysgrif Tlysau'r Beirdd,' fe'i prynwyd hi gan Domos Glyn Cothi' ym mis Rhagfyr, 1790. Yn niwedd y copi o'r Flores ceir dau ychwanegiad yn ysgrifen Iaco ab Dewi, a dangoswyd, ar dud. 43, ym mha le y dylid gosod y darnau newyddion. Ar 61 yr ail gwpled o gywydd Ieuan Tew o Gydweli, y cyfeiriwyd ato eisoes, dymunai ychwanegu 22 llinell x r Gwyliedydd, III (1825), t. 277; Gwaith Walter Davies II, t. 302. 2 Pan gofiwn i rai o lawysgrifau Iaco ab Dewi fyned yn eiddo Tomos Glyn Cothi,' y mae'n werth nodi bod yr ychwanegiad yn gyflawn yn r Drysorfa Gymmysgedig, III, t. 137. 3 Torrodd y rhwymwr ymyl uchaf y ddalen. FLORES POET ARUM BRITANNICORUM (1710). I Uffern gynt a 3 Oer naid yr ai r Enaidiau Oddiyno oedd dda i eni Un Duw a'i Gnawd an dug ni Duw a garaf deg orhoen A droes y pumoes o'r poen Achos a wnai difai fu Enwog wr in iw garu Yn anonest a ninnau Agos oll wedi gashau E roes ustys ar osteg Orch'mynion i Ddynion ddeg A'r deg yn rhedeg in Rhan O'i Ben caf heb un cyfan Gwedd deilwng a oedd dalu Ac ympryd drwy'r Byd y bu