Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'PETHAU NAS CYHOEDDWYD' 13. CHWEDL YR ANIFEILIAID HYNAF. Gwyr pawb a ddarllenodd ystori 'Culhwch ac Olwen' mai un o'r darnau mwyaf swynol ynddi yw'r hanes (R.M., tt. 129-132) am genhadau Arthur, yn eu hymchwil am Fabon fab Modron, yn myned at Fwyalch Gilgwri, Carw Rhedynfre, Cuan Cwm Cawlwyd, Eryr Gwernabwy, ac Eog Llyn Lliw, bob un yn ei dro ac yn y drefn yr enwyd hwynt yma, i ofyn a wyddant ymhle y mae Mabon yng ngharchar. Cydna- byddir mai hen ystori len-gwerin sydd yma wedi'i chorffori yng 'Nghulhwch ac Olwen'. Dangosodd yr Athro E. B. Cowell (Cymmrodor, V, 169) fod ystori debyg iddi yn hen lenyddiaeth yr India, a galwodd yr Athro W. J. Gruffydd sylw {Cymmrodor, XLH, 141-2) at olion asio'r chwedl a chwedl rhyddhau Mabon yn 'Nghulhwch', gan nad oedd ystori'r 'Anifeiliaid Hynaf (fel y'i gelwir) yn gysylltiedig ag Arthur fel yr oedd ystori rhyddhau Mabon. Nid mynd ar 61 tarddiad ac elfennau'r ystori fel y cyfryw yw fy mwriad i yma, na dangos ei thebygrwydd i straeon mewn llenyddiaethau eraill-llenyddiaeth Iwerddon, er enghraifft-ond yn hytrach alw sylw at ffurfiau eraill ar y stori mewn llenyddiaeth Gymraeg, a rhoi testun o ffurf arbennig arni a ddigwydd yn y llsgrau. Yn y ffurf hon arni y mae'r ystori yn un hunan-gynhaliol, heb gysylltiad nac ag Arthur nac a Mabon fab Modron. Isod rhof destun a geir yn Ilaw Thomas Williams o Drefriw yn Llsgr. B.M. 31055, f. 107b, gydag amrywiadau o fersiwn bratiog o'r un testun a geir yn Llsgr. Caerdydd 17 (2. 25), tt. 1-2. 'YR ANIFEILIAID HYNAF' (B.M. Add. MS. 31055, f. 107b) 1. Tulhuan Tri hyneif byt. Llyma am Eryr Gwern Gwy, alias Gwernabo. Cwm Cowlwyt Eryr Gwerngwy aeth ar vedr priodi Tûlhûan Cwm Cowlwyt ac aeth at hynafieit y byt y ofyn eil hoetran. Nyt amgen yn gyntaf yr aeth at Leisiad Glyn Lhiwon y ofyn2 ei hoetran. A'r Gleisiad a dhywod, 'Mae'n gof genyf i gyflowni blwydhyn am bob gem sydh ar vynghroen,3 ac am bob gronyn sydh y'm bol.4 Ac ny dhaw y'm cof onyt ei gwelet hi yn5 canv mal y mae hedhiw. Eithyr mae vn sydh hyn no myvi, nyt amgen Carw Rhedynvre'. 2. Carw Mynet at hwnw ac ymofyn7 ei hoetran, lhe yr oedh y Carw8 yn ymruglo9 wrth Rhedynvre gelpheinen10 derwen wedy syrthiaw yr Ihawr.11 Syganai12 y Carw: 'A weli di y gelpheint13 yma wedy daruot o heneint, heb draul14 yn y byd arno,15 onyt myvi yn ymruglo wrtho16 vnweith yn y dydh. Ac mae'n gof genyf welet y gelpheinen yma yn vesen, ac nyt cof gennyf onyt ei gwelet17 yn hen verch mal y mae hedhiw. Eithyr18 y mae vn y sy hyn no19 myvi, nyt amgen Mwyalchen Gilgwri'. 1 eu MS. 2 Llifon ag a [o]fynodd C17. 3 fynghefn C 17. 4yn y mola C 17. 5 ond i chlowed hi'n C 17. 6 Rhedynfryn C 17. 7 i ofyn C 17. 8 Y Carw]-C 17. 9 ymrwbio C 17. 10 gelpheilen MS. 11 +a darfod C 17. 12 Heb C 17. 13 gelffeinen -C 17. 14 drafael C 17. 15 ami C 17. 16 ymrwbio wrthi C 17. "onyt ei gwelet] fi gweled hi ond C 17. 18 Ond C 17. 19 sydd hyn na C 17.