Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ac a'r syniad fod yr hen eryr yn dod yn ieuanc drachefn drwy 'gael maen o gil y mor' (11. 18) cymharer yr hyn a ddywedir yn 'Hystoria Gwlat Ieuan Vendigeit' (LI. A., t. 167): Yno heuyt y mae mein a elwir Midiosi. A rei hynny yn vynych a dwc eryrot parth ac attam ni, a thrwy y rei hynny yd atuywockaant hwy ac y caffant y lleufer gwedy as collont. Rhaid imi beidio a dilyn trywydd y cyfeiriadau hyn ymhellach neu mi fyddaf ym maes toreithiog y bwystoriau a'r maenstoriau. Gorffennaf drwy bwysleisi-o fod y testunau uchod a chyfeiriad Gruffudd Llwyd—cymharer hefyd Sion Cent yn I.G.E. (1937), t. 273-yn dangos fod chwedl 'Yr Anifeiliaid Hynaf' yn bod fel stori annibynnol yng Nghymru, ac mai rhyw gyfarwydd dienw a weodd un ffurf arni-a hynny'n hynod o gywrain-i frodwaith cymhleth ystori 'Culhwch ac Olwen'. Aberystwyth. THOMAS JONES.