Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y cyfnod. Y mae casgliadau helaeth fel eiddo Margaret Davies a John Beans yn brawf mai 'ofer-gerddi' (chwedl y blaenaf) pioedd y dydd ym marn y casglwyr. Ar dro gelwir canu rhydd y cyfnod yma yn 'ganu Huw Morys', a gan mai ei gerddi ef a gadwyd fwyaf o ddigon yn y llawysgrifau cyfamserol bwriedir bwrw golwg ar y pwysicaf o'r llawysgrifau hyn, gan ddal sylw, trwy gymharu, ar y cyswllt a fu rhwng nifer ohonynt. Ond odid na rydd hyn hefyd gyfle i adnabod dulliau'r copiwyr o gasglu a thrin eu defnyddiau a datgelu eu mympwyon. Weithiau, un o'r anawsterau pennaf wrth geisio gwneud hyn yw bod rhai copiwyr fel Lewis Morris, Richard Foulkes, a John Beans, wedi dethol eu casgliadau hwy o nifer o lawysgrifau yn 61 eu difyrrwch eu hunain, fel y dengys y nodyn can- lynol a ysgrifennodd Lewis Morris yn llawysgrif B.M. 14938: Dyma Lyfr o Ganiadau ofer; om casgliad i Lewis Morris; y rhai a ddetholais i allan o hen Lyfrau sgrifen; yn hollawl o ran y synwyr a'r dyvais a gynhwysir ynddynt nid o ran prydyddiaeth; gan nad oes ond ychydig lawn o hynny ynddynt. Dechreuais sgrifennu Mis Mawrth 1626-7. Bryd arall fe geir fod copiwyr mewn ardal arbennig wedi benthyg eu llawysgrif- au y naill i'r Hall, ac os bu cyswllt agos rhwng bardd a'r ardal honno, fe'i cynrychio- lir yn deilwng yn y cyfryw lawysgrifau. Ychydig iawn o lawysgrifau yn flaw Huw Morys ei hun a gadwyd hyd ein dyddiau ni. Un o Lansilin oedd ef, ardal na bu drwy Gymru gynifer o blasau ynddi a'u pen teuluoedd yn gymaint nawdd i'r diw- ylliant Cymreig, er nad yw ond ergyd carreg o Loegr. Dyma gylch dylanwad Sycharth, y Glasgoed, Wynnstay, Y Waun, Y Plas Newydd, Brogyntyn, a llu eraill o gartrefi boneddigion Cymru'r 17 g. Cadwyd Huw Morys ymron fel bardd teulu yn y plasau hyn, a hynny, hwyrach, a roes gyfle i'w awen ehedeg yn uwch ac ar adanedd cryfach na'i gyfoeswyr. Goreugwyr y darn gwlad yma oedd William Maurice, Charles Edwards, a John Davies o'r Rhiwlas, ac o dan eu dylanwad hwy gallesid yn hawdd ddisgwyl bod gwyr eraill llai eu dawn a'u cyrraeddiadau yn meddu parch at ddysg a medr digonol i gopio llawysgrifau. Amaethwyr cefnog oedd llawer o'r cyfryw, mae'n sicr,-aelodau y dosbarth 'canol' yng Nghymru'r 18 g. Nid ydyw cael yr un cerddi yn yr union drefn mewn dwy neu ychwaneg o lawysgrifau yn brawf ynddo'i hun o gyswllt agos rhyngddynt. Fel yr awgrymwyd eisoes byddai ambell gopiwr yn ceisio rhannu'r cerddi a goplai yn destunol, a chrynhoi arall waith yr un bardd at ei gilydd. Y mae sylwi ar drefn cwpledau cywydd mewn gwahanol gopiau yn gymorth i ddal ar berthynas rhwng llawysgrifau, ond gyda barddoniaeth rydd ni cheir yn gyffredin mo'r un amrywiaeth yn nhrefn penillion ag a geir gyda chwpledau cywydd, am fod datblygiad mwy bwriadol o bennill i bennill nag sydd o gwpled igwpled. Hydganol yr 17 g. yr oedd gwybod achau'r uchelwyr yn rhan o ddysg pob bardd, ac y mae arlliw'r wybodaeth honno yn drwm ar eu cywyddau mawl, gofyn, a marwnad. Weithiau ai'r copiwyr ati i 'gywiro' achau'r cywyddau hyn yn 61 eu hachrestrau hwy eu hunain, ac am fod cwpled o gywydd yn uned fydryddol ar ei phen ei hun newidid trefn y cwpledau heb amharu dim ar saerniaeth y cyfan- waith.